GRUFFYDD, ROBERT GERAINT (1928-2015), ysgolhaig Cymraeg

Enw: Robert Geraint Gruffydd
Dyddiad geni: 1928
Dyddiad marw: 2015
Priod: Luned Gruffydd (née Roberts)
Plentyn: Siân Gruffydd
Plentyn: Pyrs Gruffydd
Plentyn: Rhun Gruffydd
Rhiant: Ceridwen Griffith (née Ellis)
Rhiant: Moses Griffith
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: ysgolhaig Cymraeg
Maes gweithgaredd: Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Brynley Francis Roberts

Cafodd R. Geraint Gruffydd ei eni ar 9 Mehefin 1928 yn Egryn, tŷ hynafol yn Nhal-y-bont, Dyffryn Ardudwy. Ef oedd yr ail o ddau blentyn Moses Griffith (1893-1973), arbrofwr amaethyddol ac yna ymgynghorydd amaethyddol annibynnol, a'i wraig Ceridwen (ganwyd Ellis), athrawes a oedd yn raddedig mewn Lladin a Chymraeg. Enw ei chwaer hŷn oedd Meinir (1926-1992). Egryn oedd cartref rhieni'r geiriadurwr a'r gramadegydd ansad hwnnw o'r ddeunawfed ganrif, William Owen Pughe, ond er mor sylfaenol y gwahaniaeth crebwyll ysgolheigaidd rhwng Geraint Gruffydd ac yntau, eto mewn rhyw ffordd ddirgel bron, ymglywai Geraint â galwad ymchwil ac ysgolheictod yn Egryn a mawrygai mai yno y bu dechrau'r daith. Ymhen ychydig flynyddoedd symudodd y teulu i fferm ymchwil arbrofol Pwllpeiran, Cwm Ystwyth, yng ngogledd Ceredigion ac yno y magwyd ef. Os ydoedd yn fan diarffordd yn ddaearyddol, nid felly yn gymdeithasol gan fod yno fywyd diwylliannol bywiog ac amrywiol. Yr oedd Moses Griffith yn un o aelodau sylfaenol Plaid Cymru a'i thrysorydd cyntaf a byddai amryw o wŷr blaenllaw Cymru yn galw ym Mhwllpeiran fel y daeth Geraint yn gyfarwydd yn bur gynnar â chlywed sgwrsio deallus am nifer o bynciau, nid rhai gwleidyddol yn unig ond rhai llenyddol, cymdeithasol a chrefyddol. Ni chafodd Saunders Lewis gyfaill mwy cymwynasgar na Moses Griffith yn ei flynyddoedd blin, a mawrygai Geraint y cyswllt â'r llenor a'r meddyliwr hwnnw a'i penododd yn ysgutor llenyddol.

Mynychodd ysgolion cynradd lleol yn Nyffryn Ardudwy, Cwm Ystwyth a Phen-llwyn (Capel Bangor), ac yna yn 1939 aeth i ysgol ramadeg Ardwyn yn Aberystwyth. Yn 1941 symudodd i ysgol Gordonstoun a oedd wedi'i hail-leoli ar y pryd yn Llandinam, Sir Drefaldwyn, ac oddi yno aeth i Goleg y Brifysgol Bangor yn 1945 a'i fryd ar wneud gradd yn y Saesneg. Nid oedd Gordonstoun yn cynnig cwrs yn y Gymraeg ac felly disgwyliai Geraint Gruffydd ymgymryd â chwrs 'inters' Cymraeg yn y coleg, ond oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen gosodwyd ef yn y dosbarth uwch lle y cafodd ei ysbrydoli gan ei athrawon, Ifor Williams a Thomas Parry yn arbennig. Ymfalchïai ei fod yn nosbarth anrhydedd olaf Ifor Williams a hoffai adrodd ei atgofion am achlysur y ddarlith olaf honno. Arwydd o'i benderfyniad i feistrioli pwnc yw'r hanesyn a adroddir amdano yn treulio gwyliau haf 1944 yn y Llyfrgell Genedlaethol 'yn darllen yn systematig bob un llyfr ac erthygl a thestun a restrir yn llyfryddiaeth Hanes Llenyddiaeth Gymraeg Thomas Parry' (a oedd wedi'i gyhoeddi y flwyddyn honno). Wedi graddio gyda dosbarth cyntaf yn y Gymraeg yn 1948 aeth i Goleg Iesu Rhydychen i ymchwilio i ryddiaith grefyddol Gymraeg o ddechrau teyrnasiad Elisabeth I hyd at yr Adferiad ar gyfer ei ddoethuriaeth a enillodd yn 1953.

Penodwyd ef i'w swydd gyntaf yn 1953, yn aelod o staff olygyddol Geiradur Prifysgol Cymru a oedd wedi'i leoli yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth. Ymatebodd Geraint Gruffydd yn frwd i natur y swydd ac i'r cyfle a gynigiai'r lleoliad iddo gael rhwydd hynt, ymhob munud sbâr, i archwilio ac ymgydnabod â chyfoeth llyfrau cynnar a llawysgrifau'r Gymraeg. Hwn oedd y cam cyntaf mewn creu cronfa ddofn bersonol o wybodaeth i dynnu ohoni yn ôl yr angen. Yn 1955 penodwyd ef yn ddarlithydd yn y Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru Bangor, lle'r arhosodd nes ei benodi'n Athro a Phennaeth Adran y Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru Aberystwyth yn 1970. Yno achubodd ar y cyfle i ddatblygu'r gwaith a wnaethpwyd gan ei ragflaenydd, Thomas Jones a sefydlu cyrsiau gradd mewn astudiaethau Celtaidd. Gwasanaethodd yn ddeon Cyfadran y Celfyddydau yn 1974. Yn 1980 penodwyd ef yn Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru lle y comisiynodd archwiliad o strwythur gweinyddol y sefydliad ac y gweithiodd yn effeithiol i ddatblygu cysylltiadu'r Llyfrgell Genedlaethol â llyfrgelloedd cyhoeddus a phrifysgol yng Nghymru a hefyd yn rhyngwladol. Yn 1985 daeth yn Gyfarwyddwr llawn amser cyntaf Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru yn Aberystwyth (cyfarwyddwr mygedol di-dâl fuasai J. E. Caerwyn Williams cyn hynny). Gwnaeth lawer i osod cyweirnod ysgolheigaidd a chymunedol y sefydliad yn y datblygiadau newydd a'i hwynebai yn y cyfnod hwn. Llwyddodd i feithrin to o ysgolheigon ifainc newydd, a chofgolofn i ysbrydoliaeth a chyfarwyddyd Geraint Gruffydd dros y blynyddoedd hyn yw cyfres saith-cyfrol Beirdd y Tywysogion (1991-96). Ymddeoloddd yn 1993, a phenodwyd ef yn Gymrawd Hŷn Mygedol yr un flwyddyn. Cyhoeddwyd cyfrol deyrnged iddo, Beirdd a Thywysogion: barddoniaeth llys yng Nghymru, Iwerddon a'r Alban (goln Morfydd E. Owen a Brynley F. Roberts) yn 1996.

Yr oedd maes ei ymchwil ar gyfer ei ddoethuriaeth yn un heriol. Cynhwysai holl agweddau'r Dadeni Dysg a'r dyneiddwyr, a gweithiau'r Diwygwyr Protestannaidd, y Gwrth-ddiwygiad a'r Piwritaniaid cynnar; hawliai afael ar ddiwinyddiaeth cyfnod o ymrafael crefyddol (a diddordeb ynddi), meistrolaeth ar hanes dyrys syniadau a gwleidyddiaeth y blynyddoedd hyn, a'r gallu i ymateb yn llenyddol i'r holl ysgrifennu hyn. Yn ymarferol rhaid hefyd fyddai ennill yr arfau llyfryddol cymwys. Agorai holl lenyddiaeth fodern gynnar y Gymraeg o'i flaen a blodeuodd ysgolheictod Geraint mewn cyhoeddiadau dros y blynyddoedd ar y Dadeni Dysg, ei awduron a'u llyfrau, ac yn arbennig ar gamp William Morgan a Beibl 1588. Dyma pryd y daeth yn arbenigwr ar gyhoeddiadau print cynnar yn y Gymraeg. Ond rhan fawr o ddawn Geraint Gruffydd fel ysgolhaig oedd ei allu i feistroli maes newydd yn drwyadl ac yna i ymchwilio ynddo o'r newydd gan gynnig astudiaeth destunol fanwl a diogel neu ddehongliad gwreiddiol treiddgar. Ym Mangor troes at Dafydd ap Gwilym a'r cywyddwyr, yn Aberystwyth bu rhaid ymgymryd â'r hengerdd a 'cherddi'r bwlch', yn y Ganolfan beirdd y tywysogion oedd y pwnc. Cyfoethogodd astudiaethau'r meysydd hyn bob un ond ni phallodd ffrwd y cyhoeddiadau eraill. Dros y blynyddoedd cyhoeddodd erthyglau ar lenorion a llenyddiaeth pob cyfnod yn hanes llên Cymru (ar weithiau'r brif ffrwd a hefyd ar ysgrifenwyr llai adnabyddus a'u cynnyrch), beirniadaeth lenyddol, ysgrifau coffa i gyfeillion ac yn rhy anaml o lawer, ambell gerdd; yn ogystal â hyn oll cafwyd ganddo ysgrifau lle y rhannai ei argyhoeddiad Cristnogol dwfn. Arwydd o'i ymlyniad wrth ddelfrydau ymchwil oedd ei barch at ei gynulleidfa. Ble bynnag y cyhoeddai ei waith - cyfnodolyn academaidd, trafodion cymdeithas, cylchgrawn llenyddol, Y Cylchgrawn Efengylaidd, Y Casglwr a llawer cyfrwng arall - nodweddir y cyfan gan yr un arddull gymen olau a'r un trylwyredd ymchwil.

Cafodd brofiad crefyddol dwys yn 1947 pan oedd yn fyfyriwr ym Mangor, profiad a ddyfnhawyd yn Rhydychen; yng Nghymru bu'n aelod o'r Mudiad Efengylaidd o'r dechrau un a bu'n aelod o fwrdd golygyddol Y Cylchgrawn Efengylaidd. Arddelai ei ffydd yn llawen heb fod hynny'n cyfyngu dim ar ei ymwneud â phobl na'i ysgolheictod. Byddai ef wedi dal mai cyfoethogi ei fywyd a'i waith a wnâi ei grefydd.

Priododd Luned (Roberts), a gyfarfu yn nyddiau coleg Bangor ac a rannai'r un profiad Cristnogol ag yntau, yn 1953. Cawsant dri o blant, Siân, Rhun a Pyrs.

Gwasanaethodd Geraint Gruffydd ar lawer o gyrff academig a chyhoeddus, yn eu plith Cyngor Llyfrau Cymru, Bwrdd Gwybodau Celtaidd Prifysgol Cymru, y Gymdeithas Lyfryddol Gymreig, yr Academi Gymreig, bwrdd golygyddol Gwasg Gregynog, Cymdeithas Hynafiaethwyr Cymru (Llywydd 1991-92). Bu'n Llywydd Cyngres Gydwladol Astudiaethau Celtaidd 1993-2003, ac yn olygydd ymgynghorol Geiriadur Prifysgol Cymru (1999 hyd ei farw). Bu'n aelod o gyngor Anrhyddeddus Gymdeithas y Cymmrodorion ac yn un o'i His-lywyddion; bu'n gyd-olygydd ei Thrafodion 1988-1992. Etholwyd ef yn Gymrawd o'r Academi Brydeinig (FBA) yn 1991 ac yr oedd yn un o Gymrodyr sylfaenol Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Yn 1992 etholwyd ef yn gymrodor anrhydeddus yng Ngholeg Iesu, ac yn Gymrawd Prifysgol Aberystwyth yn 2004 (buasai'n Is-lywydd 1996-2001). Dyfarnwyd iddo radd D.Litt. Prifysgol Cymru er anrhydedd yn 1997 a medal Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion yn 2013.

Dyn gwylaidd ydoedd, yn gyson foneddigaidd ac ystyriol, yn gymodlon wrth natur (er yn benderfynol wrth hybu buddiannau sefydliad neu achos), gyda synnwyr digrifwch bywiog ac yn gredwr mewn cydweithio gan annog a symbylu eraill i gyfrannu i drafodaeth neu brosiect.

Bu farw Geraint Gruffydd yn ei gartref yn Aberystwyth 24 Mawrth 2015 yn 86 oed; bu'r gwasanaeth angladd yng nghapel Bethel a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Cefn-llan, Llanbadarn Fawr, 1 Ebrill.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2017-02-15

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.