HUGHES, WILLIAM JOHN, (GARETH HUGHES) (1894-1965), actor

Enw: William John Hughes
Ffugenw: Gareth Hughes
Dyddiad geni: 1894
Dyddiad marw: 1965
Rhiant: Ann Hughes (née Morgans)
Rhiant: John Elias Hughes
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: actor
Maes gweithgaredd: Perfformio
Awdur: Stephen Lyons

Ganwyd William John Hughes ar 23 Awst 1894 yn Halfway, Dafen, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, yr hynaf o ddau fab i John Elias Hughes, bocsiwr tunplad, ac Ann Hughes (ganwyd Morgan). Roedd ei dad yn areithiwr medrus a enillodd lawer o wobrau mewn eisteddfodau lleol. Enw ei frawd iau oedd Brinley Hughes. Symudodd y teulu wedyn i Stryd y Dywysoges, Llanelli. Cafodd William John ei addysg yn Ysgol Elfennol Uwch Llanelli. Er iddo gael prentisiaeth gyda fferyllydd yn Stryd Vaughan, gadawodd ei gartref yn 1911 i ddilyn gyrfa actio yn Llundain, a'r adeg hon y mabwysiadodd yr enw llwyfan Gareth Hughes.

Cafodd waith gyda chwmni teithiol Shakespearaidd Alan Wilkie a Chwmni Repertoire F. B. Wolfe yn perfformio melodrama yn 1911. Daeth rhagor o waith yn ne Cymru ac yna gyda chwmni Shakespearaidd Denis Hogan ac Amanda Beresford yn 1912 cyn iddo gael ei gynnwys yng nghwmni y Welsh Players. Teithiodd y Players gyda ffars, Little Miss Llewellyn, yn ystod hanner cyntaf 1913. Fel rhan o fudiad Theatr Genedlaethol Cymru yn Ionawr 1914 hwyliodd i America gyda'r Welsh Players i berfformio drama arobryn J. O. Francis, Change. Ar y dechrau chwaraeodd Gareth ran fechan Dai Matthews, cynhyrfwr sosialaidd, ond ar ddiwedd y daith yn Chicago cymerodd ran Gwilym Price, claf ac un o'r tri mab yn y ddrama. Enillodd Gareth glod mawr am ei berfformiad fel Gwilym, ac o ganlyniad arhosodd yn America ar ddiwedd y cytundeb.

Rhwng Mai 1914 ac Awst 1915 cafodd waith amrywiol gyda Guy Bates Post, Ben Greet's Woodland Players, James O'Neill (tad yr awdur Eugene O'Neill) a Theatr Wyddelig America. Mewn ymddangosiad byr yn Moloch ar Broadway ym Medi 1915 cipiodd adolygiadau gorau'r tymor. Bu mam Gareth farw ym Mehefin 1915 a daeth ei dad a'i frawd ato yn America ym Medi y flwyddyn honno, gan aros am dros ddeunaw mis.

Cafodd Gareth brif rannau mewn dramâu llwyfan eraill ar Broadway, yn Chicago ac yn Los Angeles dros y tair blynedd nesaf. Derbyniodd ei brif ran gyntaf mewn ffilm yn Chicago ar ddiwedd 1915 ac aeth i Hollywood i serennu gyda Clara Kimball Young yn Eyes of Youth yn 1919. Ym Medi 1920 cafodd gytundeb gyda Metro Films a'i hysbysebu fel 'Metro's Boy Star'. Ond cyn iddo gychwyn ar y gwaith gyda Metro, dewiswyd Gareth gan yr awdur James Barrie i serennu fel Tommy Sandys yn ffilm ei lyfr Sentimental Tommy, ac ar fenthyg i Famous Players Lasky ar gyfer y rhan hon, dychwelodd i Arfordir y Dwyrain i ffilmio yn stiwdios newydd Paramount Astoria ar Long Island. Wedi iddo ddychwelyd i Hollywood yn 1921 prynodd dir ar gyfer cartref yn Laurel Canyon a dechreuodd weithio ar y gyntaf o bum ffilm ar gyfer Metro, gyda'r cyfarwyddwr George Baker. Daeth yn ddinesydd UDA yn 1922 a bu'n gweithio yn y ffilmiau yn unig mwy neu lai tan 1925. Dychwelodd adref ym mis Hydref 1922 tra'n ffilmio Enemies of Women yn Ewrop ac eto yn hydref 1924. Ym mis Gorffennaf 1924 a mis Chwefror 1925 ymddangosodd yn Vaudeville ac yn y theatr unwaith eto yn Efrog Newydd yn The Dunce Boy yn Ebrill a Mai 1925.

O 1925 tan 1931 parhaodd i ymddangos mewn ffilmiau ac ambell ddarn theatr. Ond ar i lawr yr oedd ei yrfa'n mynd yr adeg honno. Nid acen Gareth oedd y broblem wrth symud o'r ffilmiau mud i'r 'talkies'; roedd ei lwyddiant ar y llwyfan yn ddigon o brawf o hynny. Ei gorffolaeth oedd y rhwystr mwyaf. Nid oedd ond 5' 7” o daldra ac roedd mor denau â rhaca. Er ei fod yn heneiddio roedd ganddo ddull bachgennaidd ac arallfydol o hyd, ac nid oedd yn ddigon garw a chadarn i lenwi prif rannau dynion yr oes honno. Mae'n amlwg nad oedd yn cael cynnig y math o rolau a fyddai'n fodd iddo oroesi i mewn i ddegawd nesaf y ffilmiau. Yn 1929 diddymwyd ei fuddsoddiadau yn chwalfa Marchnad Stoc Wall Street ac am nifer o flynyddoedd yn y 1930au bu heb arian a heb waith, gan symud o fflat i fflat yn ardal Echo Park yn Los Angeles.

Yn Ionawr 1936 ymunodd â'r Federal Theatre Project yn Los Angeles, menter a gychwynnwyd gan Works Project Administration yr Arlywydd Roosevelt er mwyn cynnal proffesiynau methedig. Rhan gyntaf Gareth yn y prosiect oedd fel actor yn gweithio 96 awr y mis am $94.08 y mis. Yng ngwanwyn 1937 chwaraeodd Shylock yn The Merchant of Venice yn yr Hollywood Playhouse, rhan a chwaraeodd gyda chlod mawr fel bachgen ysgol yn Llanelli. Ym mis Tachwedd 1937 cafodd le newydd o fewn y prosiect fel Cyfarwyddwr Drama Grefyddol a Shakespearaidd am $175.76 am 169 awr y mis. Addasodd fersiynau byrion o Shakespeare a dramau miragl Saesneg cynnar ar gyfer perfformiadau mewn theatrau, ysgolion, eglwysi a sefydliadau yn Los Angeles. Gorfodwyd ef i ymddeol o'r prosiect oherwydd salwch a gorflinder ym mis Mawrth 1939.

Yn 1941, wedi iddo deimlo awydd mawr iawn i wasanaethu Duw, bedyddiwyd ef yn Eglwys St Athanasius, Los Angeles a derbyniodd fedydd esgob gan yr Esgob Stevens. Roedd yn benderfynol o gael ei urddo'n offeiriad ac fe'i derbyniwyd yn ymgeisydd i Gymdeithas Ioan yr Efengylydd yn Cambridge, Massachusetts, gan gymryd y teitl Brother David. Serch hynny, bernid nad oedd yn addas i fod yn offeiriad a gadawodd y Gymdeithas, gan gynnig eto gydag Urdd y Groes Sanctaidd yn Efrog Newydd yn 1943. Yn 1944 gweithiodd fel hyfforddwr tafodiaith i Bette Davis a chast The Corn Is Green gan Emlyn Williams cyn derbyn cynnig i wasanaethu fel Gweinidog Lleyg dros Urdd y Groes Sanctaidd ar randir brodorol Pyramid Lake yn Nixon, Nevada.

Gwasanaethodd Brother David yn Nixon, yn Wadsworth gerllaw ac yn Fort McDermitt ar y ffin rhwng Nevada ac Oregon tan 1956. Ystyrid ei ddulliau yn ddadleuol gan lawer o'i gydweithwyr, a chodwyd cwestiynau yn aml am ei allu i gwrdd ag anghenion llwyth y Paiute, pobl y byddai ef yn cyfeirio atynt fel 'fy mhlant'. Roedd yn llwybr anodd, ond gwelai'r Esgob Lewis, Pennaeth Esgobaeth Brotestannaidd Nevada, ei allu i gyrraedd y Paiutes mewn ffordd na wnaethai'r un dyn gwyn erioed. Roedd y bobl dan ei ofal yn ei garu'n fawr, a bu cynnydd enfawr yn y niferoedd a fynychai'r eglwys yn Nixon a Wadsworth yn ystod ei gyfnod ef wrth y llyw. Cefnogodd fusnesau a gweithgareddau llesol i'r llwyth; er enghraifft deuai rasys cychod gwib ar Lyn Pyramid ag incwm rent. Darbwyllodd ei hen gyfeillion yn Hollywood i ddarparu ffilmiau i'w dangos yn Neuadd yr Eglwys ac i roi dillad. Dysgodd y Paiutes i gaboli meini er mwyn gwneud tlysau i'w gwerthu, gan ddarparu'r gosodiadau a'r taclau ei hunan, a sefydlodd glwb gwnïo. Talai am esgidiau i'r plant o'i gyflog prin ei hun. Perswadiodd berchnogion gwestai yn Reno i groesawu grwpiau o bobl ifainc y llwyth i ginio er mwyn iddynt gael cip ar fywyd y ddinas. Gwnâi unrhyw beth o fewn ei allu i wella eu bywydau, a sicrhaodd fod y Paiutes a gollodd eu bywydau yng ngwasanaeth yr Unol Daleithiau yn Korea yn cael eu hanrhydeddu.

Yn ystod ei gyfnod fel Gweinidog Lleyg cymerodd swydd hefyd ar ddiwedd y 1940au yn Adran Saesneg Prifysgol Reno lle bu'n dysgu Shakespeare i'r myfyrwyr ac yn cyfarwyddo eu perfformiadau. Roedd yn aelod gweithgar ac yn siaradwr gwadd ar gyfer sawl cymdeithas leol gan eu cynorthwyo i drefnu pasiantau a gwyliau. Yn 1956 cymerodd swydd mewn capel priodas yn Reno lle bu'n priodi Paiutes ac enwogion fel ei gilydd, gan ddefnyddio'r cyflog er lles pobl y rhandir.

Bu'n rhaid iddo ymddeol unwaith eto oherwydd afiechyd, a dychwelodd i Gymru yn 1958. Ond wedi llai nag wyth mis roedd wedi cael digon. Ar ôl byw am flynyddoedd lawer yn anialwch Nevada cafodd drafferth i ddygymod â hinsawdd Cymru. Dychwelodd i'r Unol daleithiau gan ymgartrefu yn y Motion Picture Country House and Hospital yn Woodland Hills, California. Gan iddo dalu ei gyfraniadau tra'n actor ffilmiau roedd ganddo hawl i gael lle yn y cartref henoed hwn ar gyfer y diwydiant. Daeth Brother David yn gaplan answyddogol a bedyddiodd Clara Kimball Young ac Edmund Gwenn yno cyn iddynt farw. Yn 1963 hedfanodd i Lundain i wneud ymddangosiad annisgwyl ar raglen deyrnged This Is Your Life i Bessie Love, actores y bu'n serennu gyda hi yn Forget Me Not yn 1922.

Dioddefai o bysinosis, ffeibr ar yr ysgyfaint a achoswyd gan flynyddoedd o ddidoli rhoddion dillad ail-law ar gyfer ei Paiutes annwyl, a bu farw yn y cartref ar 1 Hydref 1965, yn 71 oed. Fe'i hamlosgwyd yng Nghapel y Pinwydd, Reno, ar 4 Hydref a chladdwyd ei lwch yn y Masonic Cemetery, Reno.

Mae ei etifeddiaeth fel actor yn ddiymwad, fel y tystia hyd ei yrfa a'r clod a dderbyniodd. Ar un adeg yn ei yrfa cafodd ei hysbysebu fel 'America's Foremost Young Actor'. Arhosodd ei etifeddiaeth fel cenhadwr a dyngarwr, sef ei brif etifeddiaeth, am dros hanner can mlynedd ar ôl iddo adael y rhandir yng nghalonnau'r plant a ddysgodd ac y gofalodd amdanynt. Wrth iddynt hwythau farw, ysywaeth, aeth yr etifeddiaeth honno'n anghof bron yn llwyr.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2016-12-09

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.