Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



HUWS, ALUN ‘SBARDUN’ (1948-2014), cerddor a chyfansoddwr.

Ganwyd Alun Huws ym Mangor ar 26 Medi 1948 yn fab i Richard Wynne Hughes, (1921-1989) a Catherine Ann Hughes (g. Davies, 1920-1972). Yr oedd cartref y teulu ym Mhenrhyndeudraeth. Athrawes oedd Catherine ei fam, a'i dad Richard yn gweithio yn ffatri ffrwydron Cookes Explosives Ltd., rhan o gwmni ICI. Ganwyd mab arall, John Wyn Hughes, yn frawd iau i Alun. Newidiodd Alun sillafiad ei gyfenw i'r ffurf Gymraeg flynyddoedd yn ddiweddarach.

Bu Alun yn ddisgybl yn Ysgol Gynradd Penrhyndeudraeth o 1953 i 1959, cyn symud i Ysgol Ardudwy, Harlech o 1959 i 1967. Wedi gadael yr ysgol symudodd i Gaerdydd i astudio yng Ngholeg Celf Caerdydd am flwyddyn 1967-8, cyn mynd i Goleg Addysg Cyncoed am dair blynedd i hyfforddi fel athro. Wedi gadael y coleg fe ddechreuodd ei yrfa ym myd teledu gan weithio fel ymchwilydd, cynhyrchydd a chyfarwyddwr teledu i gwmni HTV a'r BBC. Priododd Alun â Gwenno Peris Jones ar 29 Mai 1978.

Er gwaetha'i yrfa lwyddiannus ym maes darlledu, am ei ddawn gerddorol a'i gyfraniad helaeth i gerddoriaeth Gymraeg gyfoes y bydd Alun, neu ‘Sbardun’ fel y byddai pawb yn ei adnabod, yn cael ei gofio. Yn ystod ei gyfnod yn y coleg fe ddaeth Alun yn ffrindiau gyda thri dyn ifanc arall a fyddai'n chwarae rhan bwysig iawn yn ei fywyd ar hyd ei oes. Roedd DewiPwsMorris, Stan Morgan Jones ac Emyr Huws Jones yn gyfoedion i Alun yn y coleg, a chyn hir fe ddaeth y pedwar at ei gilydd i sefydlu un o grwpiau cyfoes mwyaf dylanwadol y cyfnod, sef Y Tebot Piws.

Wedi i'r Tebot Piws ddod i ben ym 1972, ymunodd Alun â'r grŵp Ac Eraill. Aelodau eraill y band oedd Cleif Harpwood, Iestyn Garlick, Tecwyn Ifan a PhilBachEdwards. Pan gynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerfyrddin ym 1974 aeth Alun ac aelodau eraill Ac Eraill ati i ysgrifennu'r opera roc gyntaf yn y Gymraeg, sef Nia Ben Aur, gydag Alun yn gyd-awdur a chyfansoddwr. Wedi i ddyddiau Ac Eraill ddod i ben, fe ymunodd Alun ag un arall o'r grwpiau cyfoes / gwerin mwyaf poblogaidd yn y cyfnod, sef Mynediad Am Ddim, gan deithio i Lydaw ac Iwerddon sawl tro.

Yn 2005/6 ysgrifennodd Alun ac Emyr Huws Jones ffilm ddogfen i S4C, ‘Llythyrau Ellis Williams’, yn seiliedig ar gyfnod ym mywyd Ellis Williams o Benisarwaun a gafodd ei alltudio o'i gartref ar ddechrau'r 20fed ganrif. Bu Ellis yn byw ym Mhatagonia ac Awstralia cyn cael ei ladd yn y ffosydd yn Ffrainc ym 1918. Roedd y ffilm yn blethiad o gerddoriaeth a drama, ac fe'i darlledwyd ar ddydd Nadolig 2006.

Yn 2008 fe gafwyd aduniad o aelodau'r Tebot Piws a chyhoeddwyd CD o ganeuon newydd ganddynt sef Twll Du Ifan Saer, sy'n cynnwys ‘Crac’, ‘Wedi Mynd’ a nifer o ganeuon eraill gan Alun. Ymddangosodd y grŵp yng Ngŵyl y Faenol ar ôl ail-ffurfio ac yna cynhaliwyd nifer fawr o gyngherddau am bedair blynedd arall ar hyd a lled Cymru cyn rhoi'r ffidil yn y to am y tro olaf yn 2011.

Heb os nac oni bai, cyfraniad pwysicaf Alun i'r Gymru gyfoes oedd yr holl ganeuon a ysgrifennodd ar gyfer nifer o berfformwyr mwyaf blaenllaw byd canu cyfoes Cymru. Mae nifer o'i ganeuon bellach ymhlith yr enwocaf a'r mwyaf adnabyddus yn yr iaith Gymraeg: ‘Cwsg Osian’ ar gyfer Sidan o'r opera roc Nia Ben Aur; ‘Strydoedd Aberstalwm’ i Bryn Fôn; ‘Dyddiau’ i Linda Griffiths; ‘Becci'n Chwarae'r Blues’ i Heather Jones a nifer fawr o ganeuon eraill i John ac Alun, Tecwyn Ifan, Iona ac Andy, Brigyn ac yn fwy diweddar caneuon ar gyfer artistiaid ifanc fel Casi Wyn.

Fe fydd nifer fawr o bobl yn medru tystio i Alun fod o gymorth mawr iddyn nhw wrth iddynt wynebu salwch alcoholiaeth. Roedd Alun ei hun yn alcoholig ond bu'n sobor am wyth mlynedd ar hugain. Pan agorwyd y Stafell Fyw yn 2011 - canolfan ddyddiol i bobl sy'n gaeth i alcohol a chyffuriau yng Nghaerdydd - gofynnwyd i Alun ysgrifennu cân arbennig ar gyfer yr achlysur. Recordiwyd ‘Cân y Stafell Fyw’ gan Bryn Fôn, Elin Fflur, Ynyr Roberts a Chôr Eifionydd.

Wrth gofio am Alun fe fydd pawb yn cofio'r llygaid direidus a'r chwerthiniad unigryw. Roedd yn ddyn doniol, ffraeth, ac annwyl, ac roedd yn berson artistig a chreadigol o'i gorun i'w sawdl. Mae sôn amdano yn fachgen ifanc ym Mhenrhyndeudraeth yn creu gitâr allan o hen focs sgidiau a choes brwsh. Roedd Penrhyndeudraeth yn golygu popeth iddo ac er iddo symud oddi yno yn ddeunaw oed a threulio bron hanner canrif yn byw ac yn gweithio yn y De, does dim dwywaith mai yn Penrhyn yr oedd ei galon.

Bu farw AlunSbardunHuws yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd ar 15 Rhagfyr 2014. Cofnodwyd achos ei farwolaeth fel pneumonia, bronchiectasis a thrawiad ar y galon. Cynhaliwyd ei angladd yn Amlosgfa'r Barri ar 29 Rhagfyr 2014.

Ffynonellau:

  • Adnabyddiaeth bersonol a gwybodaeth gan y teulu.

Awdur:

Richard Rees

Blwyddyn Cyhoeddi: 2016