JONES, ENOCH ROWLAND (1912-1978), chwaraewr iwffoniwm a chanwr

Enw: Enoch Rowland Jones
Dyddiad geni: 1912
Dyddiad marw: 1978
Priod: Roseann Jones
Plentyn: Sally Reburn Jones
Plentyn: Sybil Roishna Jones
Rhiant: Annie Jones (née Lloyd)
Rhiant: Timothy Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: chwaraewr iwffoniwm a chanwr
Maes gweithgaredd: Cerddoriaeth; Perfformio
Awdur: Trevor Herbert

Ganwyd Rowland Jones ar 19 Gorffennaf 1912 yng Ngwauncaegurwen yn Nyffryn Aman, Sir Forgannwg, yn fab i Timothy Jones, glöwr, a'i wraig Annie (ganwyd Lloyd). Roedd ganddo chwaer iau, Peggy, a chwaer hŷn, Nellie Bronwen.

Amlygodd ddawn gerddorol yn blentyn, ac yn ddeuddeg oed, dair blynedd cyn iddo ddechrau gweithio yn y pwll glo lleol, ymunodd â band pres y pentref. Ei dad-cu oedd yr arweinydd, ac roedd y band ymhlith y gorau yng Nghymru. Fel yr oedd yn arferol mewn bandiau pres ar y pryd, dysgodd trwy efelychu yn hytrach na hyfforddiant ffurfiol. Dewisodd yr iwffoniwm, a daeth ei ddawn ar yr offeryn i'r amlwg yn fuan iawn. Roedd ei berfformiadau mewn cystadleuthau cenedlaethol yn Llundain yn fodd i arddangos ei ddoniau, a denodd sylw Arthur O. Pearce, arweinydd enwog band y Black Dyke Mills. Yn 1934 teithiodd Pearce i Gymru i'w recriwtio. Darperid swyddi i gerddorion mewn bandiau a noddid gan y gweithfeydd, ac yn ystod ei gyfnod gyda band y Black Dyke Mills yn Queensbury, swydd Efrog, disgrifid Jones fel 'gasman'. Arhosodd yn Queensbury tan 1939, pan ddenwyd ef gan gynnig gwell oddi wrth fand Glofa Bickershaw yn Wigan, a oedd ar ganol cyfnod ei lwyddiant mwyaf. Cafodd waith yn y fan honno yn swyddfa gyflog y lofa.

Erbyn hynny roedd Jones wrthi'n datblygu ail yrfa a fyddai'n ei wneud yn enwocach byth. Buasai'n adnabyddus ers talwm fel canwr dawnus, ac oherwydd ei lais tenor hyfryd byddai bob amser yn cael ei nodi fel unawdydd lleisiol gyda'r bandiau y bu'n chwarae iwffoniwm ynddynt. Er gwaethaf ei allu diamheuol fel offerynnwr, daeth yn atyniad mawr fel canwr. Roedd arweinwyr bandiau y Black Dyke a Glofa Bickershaw wedi ei annog i gymryd gwersi lleisol gyda'r canwr a'r hyfforddwr adnabyddus Tom Burke.

Yn 1947, wrth i sefydliadau cerddorol Llundain ddod yn ôl i drefn wedi'r rhyfel, cafodd glyweliad llwyddiannus fel unawdydd gydag Opera Sadlers Wells, a rhoddwyd prif rolau iddo'n syth, gan gynnwys Rodolfo yn La bohème a Lensky yn Yevgeny Onegin. Yn 1951 cryfhawyd ei enw da ymhellach gan ei ran fel Boris yn y perfformiad cyntaf yn y DU o Kát'a Kabanová gan Janáček. Yn y 1960au gadawodd y Sadlers Wells a bu'n gweithio'n helaeth yn Covent Garden, mewn amryw gyngherddau ac i'r BBC. Ymddangosodd yn gyson fel unawdydd ar sioeau radio Victor Silvester hefyd.

Cwrddodd â'i wraig Roseann yn Leigh yn 1941, a phriodasant yn yr un flwyddyn. Cawsant ddwy ferch, Sybil Roishna, a anwyd yn Leigh yn 1945, a Sally Reburn a anwyd yn 1952 ar ôl iddynt symud i Ealing. Bu'r teulu'n byw wedyn yn Ruislip, ac yn 1971 symudasant i Lanrhaeadr-yng-Nghinmeirch yn sir Ddinbych. Gwnaeth Rowland rywfaint o ddysgu a chymerodd ambell ran gydag Opera Genedlaethol Cymru. Bu farw ar 28 Awst 1978 yn 66 oed ac fe'i claddwyd ym mynwent Hen Garmel, Gwauncaegurwen.

Fel canwr ystyrid bod ganddo lais telynegol hyfryd, ac er iddo ganu'r rhan fwyaf o'r rhannau mawr roedd yn arbennig o boblogaidd am ei ganu ysgafnach. Yn wir, un o'i berfformiadau enwocaf oedd yn Die Fledermaus, rhan a ganodd pan symudodd cwmni Sadlers Wells i Theatr y Coliseum a mabwysiadu ei enw newydd, English National Opera. Serch hynny, ni ddylid gadael i'w enwogrwydd fel canwr fwrw ei ddawn ar yr iwffoniwm i'r cysgod. Canai'r offeryn hwnnw â thechneg ddi-fai, gyda brawddegu telynegol celfydd a chywrain dan ddylanwad amlwg ei sgiliau lleisiol; ni swniodd yr offeryn erioed yn fwy gwefreiddiol.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2017-08-08

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.