PAGET, GEORGE CHARLES HENRY VICTOR 7fed Ardalydd Môn (1922-2013), milwr, hanesydd, cadwraethwr

Enw: George Charles Henry Victor Paget
Dyddiad geni: 1922
Dyddiad marw: 2013
Priod: Elizabeth Shirley Vaughan Paget (née Morgan)
Plentyn: Amelia Myfanwy Polly Paget
Plentyn: Elizabeth Sophia Rhiannon Paget
Plentyn: Henrietta Charlotte Eiluned Paget
Plentyn: Rupert Edward Llewellyn Paget
Plentyn: Charles Alexander Vaughan Paget
Rhiant: Victoria Marjorie Harriet Paget (née Manners)
Rhiant: Charles Henry Alexander Paget
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: milwr, hanesydd, cadwraethwr
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Milwrol; Natur ac Amaethyddiaeth
Awdur: Keith Robbins

Ganwyd Henry Anglesey yn Llundain ar 8 Hydref 1922, yn unig fab i Charles Henry Alexander Paget, 6ed Ardalydd Môn (1885-1947), milwr a gŵr llys, a'i wraig y Fonesig Victoria Marjorie Harriet (ganwyd Manners, 1883-1946). Roedd ganddo bum chwaer: y Fonesig Alexandra Mary Cecilia Caroline (1913-1973), y Fonesig Elizabeth Hester Mary (1916-1980), y Fonesig Mary Patricia Beatrice Rose (1918-1996), y Fonesig Rose Mary Primrose (1919-2005), y Fonesig Katharine Mary Veronica (ganwyd 1922). Cartref y teulu oedd Plas Newydd ym Môn. Cafodd ei addysg yn Ysgol Wixenford a Choleg Eton. Priododd ag Elizabeth Shirley Vaughan Morgan (ganwyd 1924) ar 16 Hydref 1948, a chawsant ddau fab, Charles Alexander Vaughan, 8fed Ardalydd (ganwyd 1950) a'r Arglwydd Rupert Edward Llewellyn (ganwyd 1957), a thair merch, y Fonesig Henrietta Charlotte Eiluned (ganwyd 1949), y Fonesig Elizabeth Sophia Rhiannon (ganwyd 1954) a'r Fonesig Amelia Myfanwy Polly (ganwyd 1963).

Ac yntau'n ymwybodol iawn o dreftadaeth filwrol ei deulu, bu'n ymladd yn yr Eidal fel uwchgapten gyda'r Royal Horse Guards (The Blues) yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Yn hinsawdd oer 1947, wedi marwolaeth ei dad, bu'n rhaid i Henry Anglesey (a arddelai'r teitl cwrteisi Iarll Uxbridge cyn hynny) droi'n fuan at broblemau ariannol. Roedd tollau marwolaeth o £2.5 miliwn ar ystad a werthuswyd yn £3.5 miliwn a'r unig ffordd o'u talu oedd trwy werthu erwau mawr o dir a gwaredu eiddo yn Llundain a swydd Stafford. Yn y pen draw, yn 1976, rhoddodd Blas Newydd ei hun, ynghyd â 169 erw o'r ystad o'i amgylch, i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ond cadwodd y teulu rai rhannau preifat, a pharhaodd ef i fyw yno. Yr hyn a roddodd foddhad mawr i'r ardalydd oedd y cyfle i gadw ei fyfyrgell, oherwydd yn yr ystafell honno yr ymffurfiodd ei ail yrfa annisgwyl.

Nid oedd yn ŵr gradd ac ni chafodd hyfforddiant hanesyddol ffurfiol. Serch hynny, wrth i'w lyfrau ymddangos, enillodd gryn enw iddo'i hun fel hanesydd milwrol. Fe'i hetholwyd maes o law i gymrodoriaethau Cymdeithas yr Hynafiaethwyr, y Gymdeithas Hanesyddol Frenhinol a'r Gymdeithas Lenyddiaeth Frenhinol. Dechreuodd gyda golygiad o The Capel Letters, 1814-1817 (1955). Roedd ei fywgraffiad o'i hynafiad, One Leg: The Life and Letters of the 1st Marquess of Anglesey (1961), yn ffordd bersonol amlwg i mewn i'r byd hanesyddol, ond ni phallodd ei frwdfrydedd yn y fan honno. Cafwyd cyfrolau eraill medrus ganddo, yn olygiadau o lythyrau ac yn gofiannau. Wedyn trodd at waith mawr ei fywyd, A History of the British Cavalry 1816-1919 y dechreuwyd ei gyhoeddi yn 1973. Ar y pryd hysbysebwyd hon fel y gyfrol gyntaf mewn cyfres arfaethedig o bedair. Mewn gwirionedd, pan gyhoeddwyd yr un olaf yn 1995, ymestynnai'r gyfres i wyth o gyfrolau. Neilltuodd chwarter canrif i'r fenter, gan ddangos dyfalbarhad na all nemor hanesydd 'proffesiynol' ei efelychu. Disgrifiodd ei waith i'r awdur hwn fel 'escapist stuff' ond ni ellir gwadu difrifoldeb ei ymchwil na dyfnder ei wybodaeth. Mae'r ffaith iddo ddal ati gyhyd yn dyst i'w frwdfrydedd a'i ymroddiad. Bu'n Is-lywydd y Gymdeithas Ymchwil i Hanes y Fyddin, yn aelod o Gyngor Amgueddfa Genedlaethol y Fyddin, ac yn Llywydd Anrhydeddus Cymdeithas Ymchwil Rhyfel y Crimea. Dyfarnwyd D.Litt er anrhydedd iddo gan Brifysgol Cymru yn 1984, ac am ei gyfraniad i hanes milwrol cafodd Fedal Aur Chesney gan y 'Royal United Services Institute for Defence Studies' yn 1996.

Nid oedd yn ffigwr cyfarwydd yn Nhŷ'r Arglwyddi ac ni fu iddo areithio yno erioed, er iddo bleidleisio unwaith. Bu'n flaenllaw mewn amryw gyd-destunau yng ngogledd Cymru fel Dirprwy Raglaw (1960) ym Môn, Is-Raglaw yno (1960-83) ac Arglwydd Raglaw Gwynedd (1983-89). Chwaraeodd ran fawr yn yr Archwiliad Cyhoeddus maith i'r groesfan ar Afon Conwy (1975-76), ac ystyrir yn aml fod ei bresenoldeb dygn a'i ofal wedi 'achub' y dref a'r castell. Cadeiriodd Gyngor Adeiladau Hanesyddol Cymru (1977-92) ac ef oedd Llywydd cyntaf y Cyfeillion Eglwysi Digyfaill (1966-84). Gwasanaethodd fel Is-gadeirydd Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru (1975-85) a bu'n Llywydd Amgueddfa Genedlaethol Cymru (1962-68). Bu'n aelod o Gomisiwn Brenhinol y Celfyddydau Cain (1965-71) ac yn Ymddiriedolwr yr Oriel Bortreadau Genedlaethol a Chronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol (1980-92). Cyfunai ddifrifoldeb barn â synnwyr digrifwch braidd yn hurt.

Gwnaeth ei wraig, Arglwyddes Môn, gyfraniad yr un mor arwyddocaol ei hunan i fywyd cyhoeddus. Ffurfiwyd y gangen gyntaf o Sefydliad y Merched yn Llanfair Pwllgwyngyll yn 1915, a'r cyd-ddigwyddiad hwn a ysgogodd ei diddordeb cyntaf yn y gwaith lleol, ond arweiniodd hynny at ran ehangach a chadeiryddiaeth Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliadau'r Merched (1966-69). Cyhoeddodd The Countrywoman's Year yn 1960. Gwasanaethodd ar Ymddiriedolaeth Ddinesig Cymru o'i dechreuad yn 1964. Yn ferch i ddau nofelydd, Hilda Vaughan (1892-1985) a Charles Langbridge Morgan (1894-1958), defnyddiodd ei diddordebau llenyddol a diwylliannol i wasanaethu Cymgor Celfyddydau Cymru fel Cadeirydd (1975-81). Am ei chyfraniad yng Nghymru derbyniodd radd er anrhydedd gan Brifysgol Cymru (LL.D, 1977) o flaen ei gŵr. Gwasanaethodd hefyd ar Gyngor y brifysgol ym Mangor. Y tu hwnt i Gymru cadeiriodd y Comisiwn Cwynion Darlledu (1987-91). Bu hefyd yn aelod o bwyllgor ymgynghorol drama a dawns y Cyngor Prydeinig. Bu'n Is-gadeirydd Comisiwn Amgueddfeydd ac Orielau a gwasanaethodd ar y Comisiwn Brenhinol ar Lygredd Amgylcheddol (1973-79), gan gadw diddordeb byw wedyn mewn materion amgylcheddol. Fe'i gwnaed yn CBE yn 1977 a'i dyrchafu'n DBE yn 1983.

Yn sgil y cyfuniad o'u diddordebau cyffelyb ac eto amrywiol gwnaeth 'the Angleseys' gyfraniad arbennig gyda'i gilydd i fywyd cyhoeddus yng Nghymru dros sawl degawd. Nid oedd y naill na'r llall yn fodlon pwyso'n segur ar y manteision cymdeithasol neu lenyddol a ddaeth i'w rhan trwy etifeddiaeth, ond aethant ati i ddatblygu eu doniau eu hunain, rhai ohonynt yn annisgwyl, er lles iddynt hwy a'r cyhoedd.

Bu farw Henry Anglesey o fethiant organau lluosog yn ei gartref ym Mhlas Newydd, Môn, ar 13 Gorffennaf 2013. Fe'i hamlosgwyd mewn seremoni preifat. Cynhaliwyd gwasanaeth coffa iddo yn Eglwys Gadeiriol Bangor ar 14 Mehefin 2014.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2016-06-09

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.