WILLIAMS, GARETH WYN, y Barwn Williams o Fostyn (1941-2003), cyfreithiwr a gwleidydd

Enw: Gareth Wyn Williams
Dyddiad geni: 1941
Dyddiad marw: 2003
Priod: Pauline Williams (née Clarke)
Rhiant: Selina Williams (née Evans)
Rhiant: Albert Thomas Williams
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cyfreithiwr a gwleidydd
Maes gweithgaredd: Cyfraith; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: Keith Robbins

Ganwyd Gareth Williams ar 5 Chwefror 1941 ger Prestatyn, Sir y Fflint. Ef oedd trydydd plentyn Albert Thomas Williams (marw 1964), prifathro ysgol gynradd, a'i wraig Selina (ganwyd Evans, bu farw 1985). Roedd ganddo chwaer, Catrin, a brawd John. Cymraeg oedd iaith ei gartref ym Mostyn ac, yn ôl y sôn, dysgodd Gareth Saesneg drwy gymorth recordiau Linguaphone. Cafodd ei addysg yn ysgol gynradd Mostyn, Ysgol Ramadeg y Rhyl a Choleg y Frenhines, Caergrawnt. Aeth i Gaergrawnt gydag ysgoloriaeth hanes yn 1958, ond roedd ei fryd eisoes ar fod yn fargyfreithiwr, a newidiodd i astudio'r gyfraith. Disgleiriodd yn academaidd, gan ennill Gwobr y Brifysgol mewn Cyfreitheg yn 1962 a pherfformio yn yr Undeb (er iddo gael ei guro mewn cystadleuaeth am y Llywyddiaeth gan Gymro arall, Michael Howard, yn yr un flwyddyn), a graddiodd gyda dosbarth cyntaf LL.B 1964, MA 1965.

Priododd Pauline Clarke ar 11 Awst 1962, tra'n dal yn fyfyriwr, a chawsant ddwy ferch, Martha (ganwyd 1973) ac Emma (ganwyd 1976), a mab Daniel (ganwyd 1981). Daeth y briodas honno i ben trwy ysgariad, a phriododd ei gyd-fargyfreithiwr Veena Maya Russell ar 19 Awst 1994, a ganwyd merch iddynt, Imogen Russell Williams.

Ar ôl treulio blwyddyn yn gweithio fel athro ysgol yng ngogledd Cymru, fe'i derbyniwyd i'r Bar yn Gray's Inn yn 1965, ond gwnaeth ran gyntaf ei dymor prawf yn y Deml cyn ei gwblhau yn Abertawe, lle'r arhosodd am dair blynedd ar ddeg. Symudodd i Lundain pan gymerodd silc yn 1978, a daeth yn Gofiadur Llys y Goron. Yn 1979 gweithredodd dros George Deakin, cyd-amddiffynnydd yn achos Jeremy Thorpe. Cynyddodd clod Williams yn sgil rhyddfarniad Deakin, gan agor y ffordd ar gyfer gwaith mewn achosion enllib a difenwad amlwg yn cynnwys Elton John, Graeme Souness a phersonoliaethau eraill. Daeth yn aelod o Gyngor y Bar yn 1986 (a'i gadeirydd yn 1992). Arweiniodd Gylchdaith Cymru a Chaer, 1987-89.

Yn 1992 trodd ei yrfa i gyfeiriad newydd. Ar argymhelliad yr arweinydd Llafur ymadawol Neil Kinnock fe'i gwnaed yn arglwydd am oes (pan ddathlwyd hanner canmlwyddiant Deddf Arglwyddiaethau am Oes, enillodd Williams bleidlais yr Arglwyddi fel yr arglwydd am oes gorau ers creu arglwyddiaethau am oes), a daeth yn llefarydd Llafur ar Faterion Cyfreithiol ac wedyn ar Ogledd Iwerddon. Ar ôl i Lafur ennill yr etholiad yn 1997 cafodd res o swyddi: Is-Ysgrifennydd yn y Swyddfa Gartref, Dirprwy Arweinydd Tŷ'r Arglwyddi, Twrnai Cyffredinol (1999-2001), Arweinydd Tŷ'r Arglwyddi (Mehefin 2001 hyd ei farwolaeth). Roedd wedi dadlau dros ddiwygio Tŷ'r Arglwyddi, mewn areithiau ac ysgrifau, ers dros ddegawd. Ymosododd ar y system penodiadau barnwrol ac ystyriai fod hen ddynion ar y fainc yn cynrychioli ffolineb yn hytrach na doethineb. Roedd yn argyhoeddedig bod angen gwahaniaethu'n glir rhwng penodiadau gwleidyddol, fel yr Arglwydd Ganghellor, ac awdurdod barnwrol. Chwaraeodd ran allweddol mewn trafodaethau gyda'r Prif Weinidog, Tony Blair, pan ystyriodd y llywodraeth gyfansoddiad Tŷ'r Arglwyddi. Roedd y canlyniad yn siom iddo, yn ôl pob tebyg, ond fe'i derbyniodd. Daliodd i gredu, serch hynny, fod y gwaith yn anorffenedig, ac nid o'r safbwynt hwn yn unig. Roedd yn awyddus i weld mwy o fenywod yn y Senedd. Roedd yn gas ganddo rodres a mymbo-jymbo. Petasai wedi dod yn Arglwydd Ganghellor, roedd wedi'i gwneud yn glir y byddai'n gwaredu'r wig a'r teits traddodiadol.

Gallai ei safbwynt ar y materion hyn a phethau cyffelyb arwain rhywun i feddwl ei fod yn athrawiaethwr llym a ffroenuchel heb hiwmor na chynhesrwydd, ond nid felly yr oedd. Gwyddai pryd i ddweud jôc ac roedd ei jociau yn rhai da. Roedd yn ddyn swynol a ffraeth, a gallai ddefnyddio'r ddau ddull yn effeithiol yn y llysoedd neu yn y Senedd. Roedd yn ddarllenwr eiddgar, ond nid edrychai fyth ar dudalennau chwaraeon unrhyw bapur. Yn ei wasanaeth diolchgarwch yn Abaty Westminster cyfeiriodd cydweithwyr at ei ffordd feistrolgar o ymddwyn fel 'dyn dur' a ddangosai 'dosturi caled'. Roedd y cyfuniad hwn o nodweddion yn amlwg hefyd yn yr amser a'r egni a roddai i amryw gymdeithasau: y Gwasanaeth Cynghori Carcharorion (o 1992), Cymdeithas Bargyfreithwyr y Gymanwlad ac Ethnig (o 1993) a'r NSPCC (o 1993) yn eu plith.

Nid anghofiodd Cymru mohono - fe'i gwnaed yn gymrawd er anrhydedd gan Goleg Prifysgol Cymru Aberystwyth yn 1993 - ac nid anghofiodd yntau Gymru. Cytunodd i fod yn ddirprwy-ganghellor Prifysgol Cymru yn 1994 ac, er gwaethaf ei ymrwymiadau eraill, gweithiai'n ddiwyd ar ei rhan. Credai mewn prifysgol genedlaethol, er nad oedd yn ddall i'w diffygion. Daeth ei ddawn i dawelu'r dyfroedd yn amlwg yn y cylch hwn hefyd. Gallasai'n hawdd fod wedi rhoi'r gorau iddi ar ôl ymuno â'r llywodraeth, ond teimlai ddyletswydd i ddal ati. Dyna ei ffordd o gydnabod ei dreftadaeth Gymreig a gwasanaethu ei dyfodol.

Bu farw Gareth Williams o drawiad ar y galon yn ei gartref yn Evenlode, Sir Gaerloyw, ar 20 Medi 2003. Fe'i claddwyd ym mynwent eglwys St Michael and all Angels, Great Tew, Oxfordshire.

Cyfaddefodd Gareth iddo gael ei eni mewn tacsi ar y ffordd o Fostyn i'r ysbyty ym Mhrestatyn. Yn ei fywyd, hefyd, roedd yn ddyn ar fynd rhwng lleoedd a chylchoedd, yn ddisglair ei hyfedredd ond yn gwbl glir yn ei amcan. Bu ei farwolaeth sydyn, ar anterth ei allu, yn sioc ac yn dristwch i'r byd gwleidyddol a chyfreithiol. Ef oedd y trydydd gweinidog cabinet yn unig mewn trigain mlynedd i farw yn ei swydd, a chredid yn gyffredin nad oedd eto wedi cyrraedd uchafbwynt ei yrfa.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2017-06-28

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.