ANWYL, JOHN BODVAN (‘Bodfan ’; 1875-1949), gweinidog gyda'r Annibynwyr, geiriadurwr, ac awdur;
g. 27 Meh. 1875 yng Nghaer, yn fab i John Anwyl, pregethwr cynorthwyol, o deulu Anwyliaid Llŷn, sir Gaernarfon, ac Elen Williams ei wraig. Daeth yn weinidog ar eglwys Annibynnol Elim, Caerfyrddin, yn 1899. Oherwydd byddardod ymddeolodd o'i eglwys i gymryd gofal Sefydliad y Mud a'r Byddar, Pontypridd, Morgannwg, 1904-19. Ef, yn 1914, oedd yn gyfrifol am y chweched argraffiad o Eiriadur Cymraeg-Saesneg Spurrell; yn ddiweddarach, yn 1916, golygodd y seithfed argraffiad o Eiriadur Saesneg-Cymraeg Spurrell. Bu amryw argraffiadau pellach o'r rhain. Fe'i hapwyntiwyd yn 1921 yn Ysgrifennydd y Geiriadur Cymraeg oedd ar waith dan nawdd Bwrdd Gwybodau Celtaidd Prifysgol Cymru. Ar ôl ymneilltuo o'r swydd hon, ymsefydlodd yn Llangwnadl, sir Gaernarfon, lle y bu f., trwy foddi, 23 Gorff. 1949; fe'i claddwyd ym mynwent Benllech.
Yr oedd ‘Bodfan’ yn frawd i Syr EDWARD ANWYL (Bywg., 12). Fe gyfrannodd lawer iawn i newyddiaduron a chylchgronau Cymru. Golygodd adargraffiadau o Drych y Prif Oesoedd a Gweledigaethau y Bardd Cwsc. Ymhellach, ef oedd awdur Y Pulpud Bach (1924), Yr Arian Mawr (1934), Fy Hanes I Fy Hunan (1933), ac Englynion (1933), heblaw cyfieithiadau i Gymraeg o lyfrau a gyhoeddwyd gan Gymdeithas Genhadol Llundain, megis Greatheart of Papua W. P. Nairne, 1915.
Llyfryddiaeth:
- Y Faner, 10 Awst 1949;
- West. Mail, 27 Gorff. 1949;
- Y Cymro, 29 Gorff. 1949;
- Y Llan, 12 Awst 1949;
- Y Llusern, 1949,
- Ww.
Awdur:
Athro-Emeritus Syr Thomas Herbert Parry-Williams, D.Litt., (1887-1975), Aberystwyth