ARMSTRONG-JONES, ROBERT (1857-1943), meddyg ac arbenigwr ar anhwylderau'r ymennydd;
g. 2 Rhag. 1857, yn Ynyscynhaearn, sir Gaernarfon, yn fab i'r Parch Thomas Jones, gweinidog gyda'r Annibynwyr, Eisteddfa, Cricieth, a Jane Elizabeth, merch Robert Jones o'r un lle. Bu yn ysgol ramadeg, Porthmadog, ysgol Grove Park, Wrecsam, coleg y Brifysgol, Bangor, ac ysbyty S. Bartholomew, Llundain; cymerodd ei M.D. (Llundain) yn 1885; F.R.C.S. (Lloegr) 1886; F.R.C.P. (Llundain) 1908. Yn 1888 penodwyd ef yn arolygydd meddygol Gwallgofdy Earlswood ac yn 1893 i gyffelyb swydd yng Ngwallgofdy Cyngor Sir Llundain, yn Claybury. Ymneilltuodd yn 1916. Bu'n ddarlithydd ar afiechydon y meddwl yn ysbyty S. Bartholomew; yn feddyg ymgynghorol ynglŷn â'r cyfryw afiechydon i adrannau milwrol Llundain ac Aldershot, ac yn Ymwelydd ar Wallgofrwydd i'r Arglwydd Ganghellor. Bu'n Is-Gyrnol dros dymor yn yr R.A.M.C., a chafodd y C.B.E. (Milwrol) yn 1919. Gwnaed ef yn farchog yn 1917. Mabwysiadodd Armstrong fel cyfenw ychwanegol yn 1913. Yr oedd yn Y.H. ac yn ddirprwy raglaw yn Llundain a sir Gaernarfon, ac yn aelod o Gyngor ac yn is-lywydd Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion. Pr., 1893, Margaret Elizabeth (bu f. Mai 1943), merch hynaf Syr Owen Roberts, Llundain, a Plas Dinas, Caernarfon; bu iddynt fab [Ronald Owen Lloyd Armstrong-Jones. Mab iddo yntau, Arglwydd Snowdon, a briododd y Dywysoges Margaret, chwaer y Frenhines Elizabeth II.] a dwy ferch. Bu f. 31 Ion. 1943.
Llyfryddiaeth:
- Adnabyddiaeth a gwybodaeth bersonol;
- D.N.B.;
- Ww 1943.
Awdur:
Edward Morgan Humphreys, O.B.E., M.A