Yr oedd yn aelod o Gyngor coleg Crist, Aberhonddu, ac o Gyngor coleg Aberystwyth; ef oedd cadeirydd yr adran gyfreithiol yng ngholeg Aberystwyth.
Saif dyfarniadau'r barnwr Atkin yn uchel iawn ym marn cyfreithwyr; e.e., ei ddyfarniad yn Nhŷ'r Arglwyddi yn achos Liversidge v. Anderson i amddiffyn rhyddid ein dinasyddion rhag ymyrraeth swyddogion. Ond ei brif wasanaeth i'r gyfraith oedd ei ddymuniad cryf i weld gwneud dysgu'r gyfraith yn rhan o drefn addysg gyffredinol. I'r amcan hwn rhoddodd nifer o ddarlithiau ar y gyfraith i ysgolion. Dymunai weld dosbarthiadau yn y colegau i gyfrannu addysg yn y gyfraith i leygwyr nad oedd yn amcanu myned yn gyfreithwyr. I'r un amcan ysgrifennodd ragymadrodd i lyfr Dr. Edward Jenks ar gyfraith Lloegr.
Atkin oedd cadeirydd y ddirprwyaeth a benodwyd gan yr Arglwydd Ganghellor Sankey i ystyried sefyllfa gyfoes addysg yn y gyfraith. Dywedai nad oedd yr un esgus am nad oedd i'r gyfraith yr un pwysigrwydd mewn addysg gyffredinol ag oedd yn bod yn amser Fortescue, Locke, a Blackstone. Mewn canlyniad i'w ymdrechion i ledaenu addysg gyfreithiol pasiwyd yn ddiweddar y ddeddf i estyn cynorthwy cyfreithiol i rai heb foddion digonol, dan yr enw ‘Legal Aid’; ac iddo ef y mae'n ddyledus fod y symudiad hwn wedi derbyn cydymdeimlad cyffredinol.
Cafodd Atkin ei wneud yn farchog yn 1913, yn aelod o'r Cyngor Cyfrin yn 1919, ac yn farwn yn 1928. Bu f. 25 Meh. 1944.
Thomas Arthur Levi, M.A., B.C.L., Ll.B., (1875-1954), Aberystwyth