BANKES, Syr JOHN ELDON (1854-1946), barnwr,
g. yn Llaneurgain 17 Ebrill 1854, yn fab i John Scott Bankes, plas Sychtyn; yr oedd felly'n or-ŵyr i John Scott (yr Arglwydd Ganghellor Eldon); disgynnai'n uniongyrchol hefyd o John Wynne (1667-1743, q.v.), Esgob Llanelwy, gan i ferch Wynne briodi Henry Bankes — stâd yr esgob yn Sychtyn oedd tref-tad J. E. Bankes. Aeth i Eton ac i Goleg Eglwys Crist (rhwyfodd dros Rydychen yn erbyn Caergrawnt); aeth yn fargyfreithiwr yn 1878, yn K.C. yn 1901, yn un o farnwyr yr Uchel-lys yn 1910, ac yn un o farnwyr y Llys Apêl (a chyda hynny'n aelod o'r Cyngor Cyfrin) yn 1915 — ymneilltuodd yn 1927. Ar hyd ei yrfa, ymroes i waith cyhoeddus. Yn sir y Fflint, bu am 33 mlynedd yn Gadeirydd y Sesiwn Chwarter, ac yn aelod gweithgar o'r Cyngor Sir — yn Gadeirydd iddo yn
1933. Y tu allan i'w sir, bu'n aelod o nifer mawr o bwyllgorau a dirprwyaethau — yn Gadeirydd (e.e.,) y Pwyllgor Adrannol ar Addysg yng Nghymru Wledig, 1928. Perthynai i'r blaid Geidwadol, ac ymgeisiodd (yn ofer) am sedd Bwrdeisdrefi'r Fflint yn 1906. Yr oedd yn aelod blaenllaw iawn o'r eglwys sefydledig gynt, a chanddo ddiddordeb mawr ym mhwnc addysg grefyddol yn yr ysgolion. Efo, gyda'r Arglwydd Sankey (q.v.), a luniodd gyfansoddiad newydd yr Eglwys yng Nghymru. Rhoes Prifysgol Cymru iddo yn 1921 radd LL.D. er anrhydedd. Bu f. 31 Rhag. 1946. Yr oedd wedi pr., yn 1882, Edith Ethelston (bu hi f. 1931), a bu iddynt ddau fab a dwy ferch.
Llyfryddiaeth:
- Ww;
- ac ysgrifau arno yn y wasg pan fu farw.
Awdur:
Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor.