BELLEROCHE, ALBERT DE (1864-1944), peintiwr a darluniwr ar garreg;
g. yn Abertawe a'i ddwyn i fyny gan ei lysdad, W. H. V. Millbank. Yr oedd ei gyfaill Syr Frank Brangwyn yn edmygu ei waith; efe a brynodd ‘The Fortune Teller’ o waith yr artist ar ran Amgueddfa Brussels. Rhoes Belleroche nifer o'i ddarluniau i Amgueddfa Genedlaethol Cymru — llun ei fam yn eu plith. Bu f. 14 Gorff. 1944 yn Rustington, Sussex.
Llyfryddiaeth:
- S. Wales Echo and Express, 17 Awst 1944;
- Www, 1941-50.
Awdur:
Y Parch. Thomas Mardy Rees, (1871-1953), Castell Nedd