BERRY, ROBERT GRIFFITH (1869 - 1945), gweinidog Annibynnol, awdur a dramodydd

Enw: Robert Griffith Berry
Dyddiad geni: 1869
Dyddiad marw: 1945
Priod: Hannah M. Berry (née Watkins)
Rhiant: Margaret Berry (née Williams)
Rhiant: John Berry
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog Annibynnol, awdur a dramodydd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: John Dyfnallt Owen

Ganwyd yn Llanrwst, Dyffryn Conwy, 20 Mai 1869, yn fab i John Berry a Margaret Williams. Cafodd ei addysg gynnar yn yr ysgol genedlaethol, a'r ysgol ramadeg yn Llanrwst. Cafodd ei dderbyn yn aelod o gapel Annibynnol y Tabernacl dan weinidogaeth Thomas Roberts. Oddi yno aeth, gydag ysgoloriaeth, i goleg y Brifysgol, Bangor, lle y cymerodd hanner gyntaf gradd B.A. (Prifysgol Llundain); yn 1892 aeth i goleg Bala-Bangor. Cyfrifid ef yn un o oleuadau disglair ei dymor yn y coleg, ysgrifennai'n aml i gylchgrawn y myfyrwyr, a bu'n olygydd iddo am dymor. Yn Saesneg yn unig yr ysgrifennai y pryd hwnnw, a'i ysgrifau, gan mwyaf, yn ddigrif-ddarluniau o rai o'r myfyrwyr a digwyddiadau trwstan. Derbyniodd alwad o Bethlehem, Gwaelod-y-garth, Sir Forgannwg, 3 Awst 1896, a dechreuodd ar ei weinidogaeth yno ar 13 Rhagfyr y flwyddyn honno. Cafodd yno dawelwch natur, cymdogaeth dda'r trigolion, a hamdden i ddarllen a myfyrio, i'w ddisgyblu ei hun, a diwyllio'i ddawn. Priododd, 10 Awst 1903, Hannah Watkins, Gwaelod-y-garth, a ganwyd iddynt un ferch.

Daeth R. G. Berry i sylw yn 1911 fel un o arloeswyr y ddrama Gymraeg. Yn rhestr ei ddramau hir y mae Asgre Lân (1916), Owen Gwynedd, Ar y Groesffordd (?1914), a Y Ddraenen Wen (1922). Ysgrifennodd hefyd ddramâu byr - Noson o Farrug (1915), Cadw Noswyl, Dwywaith yn Blentyn (1924) a Yr Hen Anian (1929). Gwyddai gyfrinach gosodiad priod i'w ddramâu, a theithi dialog fyw ynghyd â gofynion portreadu cymeriadau. Tynnai adnoddau ei ddramâu o fywyd cynefin Cymru. Bu chwarae lawer ar ei ddramâu yn ne a gogledd Cymru. Tarawodd ar arddull drama a ddaeth yn boblogaidd heb ystumio tafodiaith. Cyhoeddodd, o dro i dro, barodïau ac ysgrifau dychan yn fyw o feirniadaeth a doethineb. Tynnodd ddarluniau cofiadwy o hen gymeriadau lleol yn ei Llawr Dyrnu. Am ei gyfraniad i lenyddiaeth ei wlad rhoddwyd iddo radd M.A., Prifysgol Cymru ('er anrhydedd') yn 1925. Etholwyd ef yn Llywydd Cymanfa Annibynwyr Morgannwg yn 1943. Penllanw'i weinidogaeth oedd ei anerchiad eneiniedig ar 'Arglwyddiaeth Crist' o Gadair Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yn 1944. Bu farw 16 Ionawr 1945.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.