Wedi iddo adael y Weinyddiaeth Iechyd bu Chappell yn ffurfio ac yn arolygu cwmnïau ynglŷn â datblygu tir, etc., yn Llundain a Chaerdydd — gw. rhestr o'r cwmnïau hyn yn Who's Who in Wales, 1937. Efe oedd un o sylfaenwyr (ac, am rai blynyddoedd, ysgrifennydd) y ‘Welsh Housing and Development Association’; golygodd gyfrolau 1916, 1917, a 1918 The Welsh Housing and Development Year Book. Yn ddiweddarach bu'n ddiwyd yn ei waith ar wahanol gynghorau — cyngor sir Morgannwg yn eu plith — a'u pwyllgorau. Fe'i dewiswyd gan y Cyngor Cyfrin yn un o'i gynrychiolwyr ar Lys Llywodraethwyr Llyfrgell Genedlaethol Cymru; cafodd radd M.A. (‘er anrhydedd’) gan Brifysgol Cymru yn 1948. Ar hyd y blynyddoedd bu'n ysgrifennu ysgrifau, pamffledi, a llyfrau mwy; bu hefyd am gyfnod yn golygu'r Welsh Outlook. Dyma deitlau rhai o'i weithiau — Pithead and Factory Baths (gyda J. A. Lovat-Fraser), 1920; The Housing Problem in Wales, 1920; History of the Port of Cardiff, 1939; Historic Melingriffith, 1940; The Government of Wales, 1943; Wake up, Wales … 1943; Cardiff's Civic Centre, a Historical Guide, 1946.
Pr. Alice, merch Caleb Thomas, Ystalyfera, a bu iddynt fab. Bu f. yng Nghaerdydd 26 Awst 1949.
Syr William Llewelyn Davies, M.A., LL.D., F.S.A. (1887-1952), Aberystwyth