DAVIES, JOHN DANIEL (1874 - 1948), golygydd ac awdur

Enw: John Daniel Davies
Dyddiad geni: 1874
Dyddiad marw: 1948
Priod: Mary Ellen Davies (née Humphreys)
Rhiant: Daniel Davies
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: golygydd ac awdur
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: John Williams James

Ganwyd 12 Ionawr 1874, yn y Gwynfryn, Aberderfyn, Ponciau, yn un o saith o blant i Daniel Davies a'i wraig. Wedi dyddiau ysgol aeth yn brentis argraffydd at David Jones, Rhosymedre, ac wedi hynny at Richard Mills, argraffydd y Rhos Herald. Priododd Mary Ellen, merch William Humphreys ('Elihu'), Blaenau Ffestiniog, 25 Ebrill 1900. Daeth i fyw i Flaenau Flestiniog ac yn olygydd a pherchennog Y Rhedegydd yn 1906. Yr oedd yn bregethwr gyda'r Bedyddwyr Albanaidd. Nid oedd ball ar ei edmygedd o J. R. Jones, Ramoth; gweler ysgrif ganddo yn Y Geninen, Ebrill 1922). Enillodd gadair yn eisteddfod Penmachno gyda phryddest, ' Temtiad Crist '. Nid ymgeisiodd am wobrwyon wedi hynny, ond ymrôdd ati i gyfansoddi emynau, pregethau, Holwyddoreg i blant, ac ysgrifau ar amryw destunau. Cyhoeddodd Emynwyr Gwynedd, 1905, Saith Canhwyllbren Aur (pregethau), a ' Hanes y Bedyddwyr Albanaidd a Champelaidd yng Nghymru ', (yr olaf yn Cymdeithas Hanes Bedyddwyr 1940-1). Golygodd Yr Ymwelydd, cylchgrawn y Bedyddwyr Albanaidd, am flynyddoedd. Bu farw 9 Ebrill 1948, a chladdwyd ef ym mynwent Bethesda, Blaenau Ffestiniog.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.