DAVIES, DAVID (1880 - 1944), Y BARWN DAVIES cyntaf (crewyd 1932)

Enw: David Davies
Dyddiad geni: 1880
Dyddiad marw: 1944
Rhyw: Gwryw
Maes gweithgaredd: Meddygaeth; Dyngarwch; Gwasanaethau Cyhoeddus a Chymdeithasol, Gweinyddiaeth Sifil
Awdur: Gwilym Davies

Ganwyd 11 Mai 1880, unig fab Edward Davies, Llandinam, a Mary, merch Evan Jones, gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd a pherthynas agos i John Jones, Tal-y-sarn.

Etifeddodd egni ac yspryd anturiaethus ei daid, David Davies, Llandinam, y diwydiannwr Cymreig mwyaf a welodd cyfnod Victoria. Addysgwyd ef yng ngholeg y Brenin, Caergrawnt. Aeth i Dyr Cyffredin yn 26 mlwydd oed, yn aelod rhyddfrydol dros sir Drefaldwyn; ymddiswyddodd o'i sedd yn 1929. Yn ystod rhyfel 1914-1918 cododd bedwaredd fataliwn ar ddeg y ' Royal Welsh Fusiliers ' ac arweiniodd hi yng Nghymru ac yn Ffrainc hyd 1916, pryd y penodwyd ef yn ysgrifennydd seneddol i David Lloyd George.

Cysylltir ei enw yn arbennig â'i ddau ddiddordeb pennaf, yr ymgyrch Cymreig yn erbyn y darfodedigaeth (y pla gwyn) a'r crwsâd dros heddwch cydwladol.

Yn 1911 sefydlodd ef a'i chwiorydd, Misses G. E. a M. S. Davies, Gregynog, y gymdeithas a alwyd 'King Edward the Seventh Welsh National Memorial Association', ac o dan ei arweiniad datblygodd y mudiad led-led Cymru gyda'i sanatoria ac ysbytai. Gwaddoliad teulu Llandinam, hefyd, oedd Cadair Tuberculosis yn Ysgol Feddygol Cymru, Caerdydd.

O 1919 ymlaen, gweithiodd David Davies â'i holl egni dros heddwch cydwladol, gan gynnal traddodiadau yr arloeswyr - Richard Price, Robert Owen, a Henry Richard. Yr oedd yn un o sylfaenwyr Undeb Cynghrair y Cenhedloedd ac, wedi hynny, yn ddadleuwr blaenllaw dros gryfhau'r Cynghrair trwy greu Heddlu Cydwladol. Yn 1932 sefydlodd ' Gymdeithas y Wladwriaeth Newydd ' ('The New Commonwealth') er 'hyrwyddo cyfraith a threfn cydwladol'. Ysgrifennodd nifer o lyfrau yn trin ar iawn ddefnyddio gorfodaeth, yn bennaf The Problem of the Twentieth Century, a gyhoeddwyd yn gyntaf yn 1930. Yn Nhachwedd 1938 sylweddolodd un o hoff amcanion ei fywyd pan orffennwyd adeiladu'r Deml Heddwch ac Iechyd ym mharc Cathays, Caerdydd.

Bu'n llywydd coleg y Brifysgol, Aberystwyth, am flynyddoedd. Ymhlith ei aml roddion iddo oedd gwaddoliad y Gadair Wleidyddiaeth Gydwladol (Wilson), y gadair athrofaol gyntaf ar y pwnc hwn ym Mhrydain Fawr. Bu hefyd yn noddwr hael i Lyfrgell Genedlaethol Cymru ac yn llywydd arni.

Er ei holl ymwneud â diwydiant a masnach, gwladwr oedd David Davies yn y gwraidd, yn ymddiddori mewn sbort o bob math ac yn cadw cwn hela yn Llandinam. Yr oedd yn gefnogydd brwd i Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru.

Priododd ddwywaith. Bu farw ei wraig gyntaf, Amy (merch L. T. Penman, Broadwood Park, Lanchester) yn 1918. Ganwyd iddynt ddau blentyn, mab a merch. Yn 1922, priododd Henrietta Margaret (merch James Grant Fergusson, Baledmund, Ysgotland) - a bu hi farw yn 1948. Cawsant hwy ddau fab a dwy ferch. Bu'r Arglwydd Davies farw 16 Mehefin 1944.

Collodd ei etifedd, yr uchgapten DAVID DAVIES, R.W.F., ail Farwn Davies (ganwyd 16 Ionawr 1915), ei fywyd, pan yn ymladd ar y ffrynt orllewinol yn yr Iseldiroedd, ym Medi 1944. Priodasai Ruth Eldrydd, merch yr uchgapten William Marshall Dugdale, Llanfyllin, yn 1939, a bu iddynt 2 fab.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.