DAVIES, Syr HENRY WALFORD (1869 - 1941), cerddor

Enw: Henry Walford Davies
Dyddiad geni: 1869
Dyddiad marw: 1941
Priod: Constance Margaret Davies (née Evans)
Rhiant: Susan Davies (née Gregory)
Rhiant: John Whitridge Davies
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cerddor
Maes gweithgaredd: Addysg; Cerddoriaeth; Perfformio
Awdur: John Charles McLean

Ganwyd 6 Medi 1869 yn fab i John Whitridge Davies a Susan ei wraig (merch Thomas Gregory) Croesoswallt. Yn 12 oed derbyniwyd ef yn aelod o gôr eglwys S. Sior, Windsor, lle y bu'n ddisgybl cynorthwyol i Syr Walter Parratt, 1885-1890. Yn 1890 enillodd ysgoloriaeth cyfansoddi yn y Coleg Cerdd Brenhinol (Royal College of Music), Llundain, a thra yn efrydydd yno bu'n organydd eglwys S. Ann, Soho, ac eglwys Crist, Hampstead. Apwyntiwyd ef yn athro gwrthbwynt yn y coleg yn 1895, ond ymddeolodd o'r swydd yn 1903. Yn 1898 etholwyd ef i swydd bwysig organydd a chyfarwyddwr y côr yn y Temple Church, Llundain, a llanwodd y swydd gydag urddas am 20 mlynedd. Bu hefyd yn arweinydd y ' Bach Choir ', yn gyfarwyddwr cerdd i'r ' Royal Air Force ', yn organydd eglwys S. Sior, Windsor ac yn athro cerdd yng ngholeg Gresham, Llundain. Yn 1919 derbyniodd swyddi cyfarwyddwr cerdd ym Mhrifysgol Cymru ac athro cerdd yng ngholeg y Brifysgol, Aberystwyth, ond ymddeolodd o'r ail swydd yn 1926. Gwnaed ef yn farchog yn 1922, ac apwyntiwyd ef gan y Brenin Sior V yn ' Master of the King's Musick ' ar farwolaeth Syr Edward Elgar yn 1934; yr oedd eisoes, sef yn 1932, wedi cael ei wneud yn C.V.O., ac yn ddiweddarach (1937) yn K.C.V.O. Yr oedd yn F.R.C.O., F.R.A.M., F.R.C.M.; cafodd hefyd y graddau a ganlyn: D.Mus. (Caergrawnt); D.Mus. (Rhydychen); Mus.D. (Dulyn), a LL.D. (Leeds). Bu'n gyfansoddwr diwyd, cyhoeddwyd llu mawr o'i gyfansoddiadau a pherformiwyd amryw o'i weithiau pwysicaf yn y ' Three Choirs Festivals '. Yr oedd yn adnabyddus trwy'r holl fyd oblegid ei sgyrsiau ar y radio a'i recordiau gramoffon. Priododd 1924 Constance Margaret, merch William Evans, offeiriad Arberth a Chanon Tyddewi. Bu farw yn Wrington, Bryste, 11 Mawrth 1941.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.