DIVERRES, POL (1880 - 1946), ieithydd ac ysgolhaig Celtaidd, a fu am gyfnod yn geidwad y llawysgrifau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Enw: Pol Diverres
Dyddiad geni: 1880
Dyddiad marw: 1946
Priod: Elizabeth Diverres (née Jones)
Plentyn: Armel Hugh Diverres
Rhiant: Pauline Diverres (née Chauvlon)
Rhiant: Henri Diverres
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: ieithydd ac ysgolhaig Celtaidd, a fu am gyfnod yn geidwad y llawysgrifau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: William Llewelyn Davies

Ganwyd 12 Rhagfyr 1880 yn Lorient, Llydaw, mab Henri Diverres, cyfreithiwr ac awdurdod ar lên-gwerin Llydaw, a Pauline Chauvlon. Cafodd ei addysg ym mhrifysgolion Rennes a Pharis. Mynnai ei rieni iddo fod yn feddyg ac yr oedd bron a gorffen ei gwrs pan benderfynodd ganolbwyntio ar yr ieithoedd Celtaidd. Bu'n ddisgybl i Joseph Loth yn y Collège de France; bu hefyd yn yr École des Hautes Études, Paris. Ffrangeg oedd iaith ei gartref eithr dysgodd yn ddiweddarach, Gymraeg. Daeth i Gymru yn 1911 yn un o gynrychiolwyr Gorsedd Beirdd Llydaw yn eisteddfod genedlaethol Caerfyrddin, a dyna gychwyn cysylltiad â Chymru nas torrwyd wedi hynny. Priododd 1913, Elizabeth Jones ('Telynores Gwalia'), merch Hugh Jones ('Trisant'), Lerpwl, a bu iddynt un mab. Cymerodd gwrs ychwanegol yn adran Gelteg Prifysgol Lerpwl a graddiodd yn M.A., yno yn 1914; yr oedd wedi cymryd ei ' doctorat ' ym mhrifysgol Rennes beth amser cyn hynny. Bu am ychydig amser yn athro Ffrangeg yn ysgol Lewis, Pengam, Sir Forgannwg. Ar 9 Medi 1919 fe'i dewiswyd yn ail islyfrgellydd (ac yn geidwad adran y llawysgrifau) yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, eithr ymadawodd yn 1923 i ymuno â'r adran Ffrangeg yng ngholeg newydd y Brifysgol yn Abertawe; yno y treuliodd weddill ei oes. Bu farw 25 Rhagfyr 1946, ac fe'i claddwyd ym mynwent Sgeti. Yr oedd ganddo lyfrgell Geltaidd dda a threfnodd ei weddw a'i fab i rannau helaeth ohoni, yn arbennig ei lyfrau a'i gyfnodolion yn ymwneuthur â Llydaw, ddyfod i'r Llyfrgell Genedlaethol. Enwau llysiau a'u rhinweddau oedd prif bwnc ei astudiaeth; cyhoeddwyd ei draethawd ' doctorat ' yn 1913 ym Mharis - Le plus ancien texte des Meddygon Myddveu. Cyhoeddodd hefyd, yn Rennes yn 1931, Le Siège de Lorient par les Anglais en 1746, a cheir cyfraniadau ganddo yn Revue Celtique ac yn Les Annales de Bretagne.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.