EVANS, JAMES THOMAS (1878 - 1950), prifathro coleg y Bedyddwyr, Bangor

Enw: James Thomas Evans
Dyddiad geni: 1878
Dyddiad marw: 1950
Priod: Annie Evans (née Humphreys)
Rhiant: Ann Evans (née Williams)
Rhiant: William Evans
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: prifathro coleg y Bedyddwyr, Bangor
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg
Awdur: Tom Ellis Jones

Ganwyd 1 Mawrth 1878 yn Abercwmboi, yn fab i William Evans ac Ann Williams ei wraig. Symudodd y teulu i Bont-y-gwaith, ac yno dechreuodd y mab bregethu. Bu am gyfnod yn academi Pontypridd cyn ei dderbyn i goleg a phrifysgol Bangor yn 1900, lle y graddiodd gydag anrhydedd mewn Hebraeg. Enillodd wobr y Deon Edwards ac ysgoloriaeth George Osborne Morgan, ac aeth i Leipzig am gwrs pellach o efrydiaeth. Enillodd M.A. Cymru yn 1905 a B.D. Llundain yn 1910. Etholwyd ef yn 1906 yn olynydd i'r Dr. Witton Davies yn athro Hebraeg yng ngholeg y Bedyddwyr, a dilynodd Silas Morris yn 1923 yn bennaeth y Coleg. Cyhoeddodd amryw ysgrifau, esboniad ar Lyfr Amos, ac yr oedd yn un o is-olygyddion y Geiriadur Beiblaidd a gyhoeddwyd gan Urdd Graddedigion y Brifysgol. Cyhoeddodd hefyd lawlyfr hylaw ar Grefydd yr Hen Destament. Bu yn llywydd Cymanfa Bedyddwyr Arfon, a rhoes wasanaeth mawr drwy'r blynyddoedd i'w enwad yn eglwysi'r Gogledd. Priododd 18 Medi 1907, Annie Humphreys. Bu farw 28 Chwefror 1950 a chladdwyd ef yng ngladdfa Glanwydden.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.