Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



FYNES-CLINTON, OSBERT HENRY (1869-1941), athro Ffrangeg yng ngholeg y Gogledd, Bangor; g. 9 Tach. 1869, mab y Parch. Osbert Fynes-Clinton, rheithor Barlow Moor ger Didsbury. Graddiodd yng Ngholeg S. Ioan, Rhydychen, ac yn 1892 etholwyd ef gan y Brifysgol yn ‘Taylorian Scholar’ mewn Sbaeneg. Bu'n dysgu Ffrangeg yn ysgol y Brenin Edward, Aston, Birmingham, o 1896 hyd 1904, pryd y penodwyd ef yn athro Ffrangeg yng ngholeg y Gogledd, Bangor, swydd a ddaliodd nes ymddeol ohono yn 1937; penodwyd ef yn athro emeritus yr un flwyddyn. Yr oedd yn ieithydd disglair, a threuliodd ei oriau hamdden i wneud astudiaeth drylwyr o dafodiaith Arfon. Yn 1913 cyhoeddodd The Welsh Vocabulary of the Bangor District, gwaith a sicrhaodd iddo safle anrhydeddus yn hanes ieithyddiaeth Gymraeg; dyma'r unig eirfa gynhwysfawr o dafodiaith Gymraeg a gyhoeddwyd mewn dull gwyddonol hyd yma. Cydnabu Prifysgol Cymru ei lafur yn 1939 trwy roddi iddo radd D.Litt. er anrhydedd. Bu f. 9 Awst. 1941.

Llyfryddiaeth:

  • Www, 1941-50;
  • N. Wales Chronicle, 15 a 22 Awst, 1941.

Awdur:

Emyr Gwynne Jones, M.A., (1911-72), Bangor