Bu'n gwasanaethu ym myddinoedd America a Phrydain. Erbyn 1903 yr oedd yn Lieutenant-Colonel ym myddin America, eithr ymddiswyddodd yn 1905 a dyfod i Gymru i fyw. Bu'n swyddog yn Rhyfel Mawr 1914-18; bu hefyd yn swyddog yn yr ‘Home Guard’ yn Rhyfel 1939-45.
Fel awdur y mae iddo ddau gyfnod — yn America ac ym Mhrydain. Yn ystod y ddau gyfnod yr oedd ei weithiau ar hen deuluoedd yn bwysig. Wedi iddo ddyfod i fyw yng Nghymru (ym Mhrestatyn, Meliden, Rhyl, ac, yn ddiweddaf oll, yn Abergele) rhoddodd lawer o sylw i hanes lleol a hynafiaethau; yr oedd yn aelod o Gymdeithas Hynafiaethau Cymru ac ysgrifennai o bryd i bryd i Arch. Camb. Yr oedd yn achyddwr gofalus a chan fod ganddo hefyd dalent arlunydd y mae ei waith yn y maes arbennig hwn yn bur werthfawr; yr oedd hefyd yn chwilotwr dyfal ac yn gopïwr gofalus.
Pr., yn 1904, Meenie Mary, merch Robert H. a Jessie Tothill, a bu iddynt ddwy ferch. Bu f. yn Abergele, 30 Ion. 1948; bu ei weddw f. ar 4 Medi 1949.
Heblaw erthyglau yn Arch. Camb. a chyhoeddiadau cyffelyb (rhai ohonynt yn cael eu cyhoeddi yn America), yr oedd Glenn yn awdur llu o lyfrau a llyfrynnau. Yn eu plith y mae Merion in the Welsh Tract … (Pennsylvania) (Norristown, 1896); Some colonial mansions and those who lived in them (Philadelphia; 1st series 1899, 2nd series 1900); Welsh Founders of Pennsylvania, 2 vols., (Oxford, 1911); Newmarket Notes (Prestatyn Hundred, Flintshire), Parts 1 and 2 (Prestatyn 1911, 1912); Northern Flintshire, historical, genealogical and archaeological, Vol. 1, Parts 1-3, (Horncastle, 1913); (gydag Arglwydd Mostyn), History of the Family of Mostyn, (1926); The Family of Griffith of Garn and Plasnewydd in the County of Denbigh, (London, 1934).
Y mae'r rhan fwyaf o'i lawysgrifau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Syr William Llewelyn Davies, M.A., LL.D., F.S.A. (1887-1952), Aberystwyth