Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



GOODWIN, GERAINT (1903-1941), awdur; g. 1 Mai 1903 ym mhlwyf Llanllwchhaearn, sir Drefaldwyn, mab Richard a Mary Jane Goodwin. Bu yn ysgol ganolraddol Tywyn, sir Feirionnydd. O 1922 hyd 1938 yr oedd yn byw yn Llundain, gan ysgrifennu i newyddiaduron a chyfnodolion ac yn cyfansoddi llyfrau. Yn 1932 pr. Rhoda Margaret, merch Harold Storey. Ei lyfrau cyntaf oedd Conversations with George Moore, 1929, a Call Back Yesterday, 1935 — yr ail, i raddau, yn hunan-gofiannol. Troes wedyn i ysgrifennu nofelau a storïau ac at bynciau CymreigThe Heyday in the Blood, 1936, The White Farm (storïau byrion) 1937, Watch for the Morning, 1938, a Come Michaelmas, 1939. Y mae ei storïau am Gymru a'r goror yn llawn o fywyd ac o sawyr y ddaear. Wedi dychwelyd i Gymru bu'n byw yng Nghorris Ucha ac wedyn yn Nhrefaldwyn lle y bu f. 10 Hyd. 1941.

Llyfryddiaeth:

  • Gwybodaeth bersonol.

Awdur:

Yr Athro Gwyn Jones, M.A., (1907-99), Aberystwyth / Caerdydd