Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



GREEN, FRANCIS (1854-1942), hynafiaethydd; g. yng Nghaerfyrddin 15 Rhag. 1854, yn fab hynaf i Francis Green, Oaklands, a'i briod Elizabeth Harries o Dre-facwn, gerllaw Tre-fin, ac addysgwyd mewn ysgol Forafaidd ym Mhen-dain, yn ysgol y Siapter yn Nhyddewi, ac yn ysgol Amwythig. Wedi astudio'r gyfraith yn Llundain a gweithio yn swyddfa'i dad, ymfudodd yn 1878 i Ganada, lle y bu'n ffermio nes dychwelyd i Lundain yn 1892 i weithio yn swyddfa'r Financial Times. Ymneilltuodd i Dyddewi yn 1907, a bwriodd weddill ei oes faith mewn ymchwiliadau hynafiaethol, gan ennill bri mawr ynddynt. Golygodd y West Wales Historical Records; lluniodd galendrau o'r Coleman Deeds (1921), Crosswood Deeds (1927) a'r Hawarden Deeds (1931) yn y Llyfrgell Genedlaethol, ond erys ei galendr o ddogfennau Peniarth heb ei gyhoeddi; a chyfrannodd bapurau pwysig ar hanes sir Benfro i'r Cymmrodor ac i Drafodion y Cymmrodorion. Y mae llawer o'i lawysgrifau yn llyfrgell sir Benfro yn Hwlffordd a chopïau yn y Llyfrgell Genedlaethol. Bu f. 6 Awst 1942, yn Nhyddewi.

Llyfryddiaeth:

  • Gwybodaeth gan ei nith, Miss Green o Dyddewi, a chan lyfrgellydd sir Benfro yn Hwlffordd;
  • adnabyddiaeth bersonol.

Awdur:

John James Evans, M.A., (1894-1965), Tyddewi