GREEN, CHARLES ALFRED HOWELL (1864-1944), ail archesgob Cymru,
a mab hynaf A. J. M. Green, offeiriad, ac Elizabeth ei wraig; g. yn Llanelli, sir Gaerfyrddin, 19 Awst 1864. Ar ochr ei fam yr oedd yn or-ŵyr i Peter Williams (Bywg., 999). Cafodd ei addysg yn ysgol Charterhouse a choleg Keble, Rhydychen; graddiodd yn B.A. yn 1887 yn y clasuron yn yr ail ddosbarth, ac yn M.A. yn 1892. Yn ei dro, bu'n llyfrgellydd ac yn llywydd yr ‘Oxford Union Society’. Urddwyd ef yn ddiacon yn 1888 ac yn offeiriad yn 1889, a bu'n gurad ac yna'n ficer Aberdâr o 1893 hyd ei benodi'n ganon yn eglwys gadeiriol Llandâf ac yn archddiacon Mynwy yn 1914. Pan ffurfiwyd esgobaeth newydd Mynwy yn 1921, ef oedd yr esgob cyntaf; penodwyd ef yn esgob Bangor yn 1928. Wedi i A. G. Edwards (Bywg., 171) ymddeol, etholwyd ef (1934) yn archesgob Cymru, a daliodd y swydd honno hyd fis cyn ei farw, 7 Mai 1944; claddwyd ef yn Llandâf. Enillodd raddau B.D. (1907), D.D. (1911), a D.C.L. (1938), ym Mhrifysgol Rhydychen ac yr oedd yn gymrawd anrhydeddus o goleg Keble. Ysgrifennodd Notes on Churches in the Diocese of Llandaff (1907), a The Constitution of the Church in Wales (1937). Pr. yn 1899, Katherine Mary, merch William Thomas Lewis, yr Arglwydd Merthyr cyntaf (Bywg. 528).
Llyfryddiaeth:
- The Times, 10 Mai 1944;
- gwybodaeth bersonol.
- [Www 1941-50].
Awdur:
Thomas Iorwerth Ellis, M.A., (1899-1970), Aberystwyth