IRBY, GEORGE FLORANCE, 6ed barwn BOSTON (1860-1941), tirfeddiannwr a gwyddonydd;
g. 6 Medi 1860, mab hynaf Florance George Irby, 5ed barwn Boston, ac Augusta Caroline, merch y 3ydd Barwn de Saumarez. Addysgwyd ef yn Eton a choleg Eglwys Crist, Rhydychen, lle y graddiodd gydag anrhydedd mewn hanes ddiweddar yn 1882. O 1885 hyd 1886 yr oedd yn ‘lord-in-waiting’ i'r Frenhines Victoria. Perchenogai stadau yn swyddi Lincoln a Buckingham ac hefyd yn Lligwy, Môn. Trwy gydol ei fywyd treuliodd lawer o'i oriau hamdden i astudio rhai canghennau o'r gwyddorau anianol, yn arbennig seryddiaeth, botaneg ac entomoleg, ac yr oedd yn Gymrawd o Gymdeithas yr Hynafiaethwyr ac o Gymdeithas Ddaeareg Llundain. Efo oedd llywydd Cymdeithas Hynafiaethol Môn o adeg ei sefydlu yn 1912 hyd o fewn ychydig i'w farw, ac yn ystod y cyfnod hwn bu'n gefn i bob gweithgaredd archaeolegol ym Môn a'r siroedd cyfagos — yn Lligwy ei hun pan archwiliwyd olion hen bentref Prydeinig yno o'r cyfnod Rhufeinig, ac hefyd yng Nghaer Saint (Segontium) a Chaerhun (Conovium). Yn 1936 cyflwynwyd iddo radd LL.D. er anrhydedd gan Brifysgol Cymru am ei wasanaeth i ddiwylliant cenedlaethol. Bu f. 16 Medi 1941.
Llyfryddiaeth:
- The Times, 17 Medi, 1941
- WwW (ail arg.);
- Minutes of the Court of the Univ. of Wales, 21 a 22, Gorff. 1936.
Awdur:
Emyr Gwynne Jones, M.A., (1911-72), Bangor