Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



JAMES, JENKIN (1875-1949), ysgrifennydd cyntaf Cyngor Prifysgol Cymru ac awdur; g. 28 Rhag. 1875, ym mhlwyf Llannarth, sir Aberteifi. Bu'n efrydydd yng ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, ac enillodd radd B.A. Prifysgol Llundain yn 1895, ac M.A. yr un brifysgol yn 1900. Bu'n athro yn ysgol ramadeg Biwmares, 1897-99, ac yn ysgol ganolradd Y Barri, 1900-04. Yn 1904 penodwyd ef yn glerc pwyllgor addysg sir Aberteifi, ac yn 1908 yn gyfarwyddwr addysg yr un sir. Bu yn y swydd hon hyd fis Medi 1920 pan benodwyd ef yn gyfarwyddwr addysg bwrdeisdref sirol Barnsley yn sir Efrog. Yn yr un flwyddyn gwnaed ef yn O.B.E. Yn 1921 penodwyd ef yn ysgrifennydd Cyngor Prifysgol Cymru, swydd y bu ynddi hyd iddo ymddeol yn 1945. Cyflwynwyd iddo radd LL.D. Prifysgol Cymru (er anrhydedd) yn 1946. Golygodd ddwy gyfrol fechan o ddetholion o weithiau beirdd sir Aberteifi ar gyfer plant ysgol dan y teitl Gemau Ceredigion, 1914-15, ac ail gyhoeddwyd cynnwys y ddwy gyfrol yn un yn 1930. Ysgrifennodd hefyd werslyfrau ysgrythurol megis Gwerslyfr ar Hanes yr Iesu (1918), a Llawlyfr ar y rhan gyntaf o Actau'r Apostolion … (1920), a nifer o erthyglau a phamffledi. Bu f. 31 Hydref 1949.

Llyfryddiaeth:

  • WwW, 1921;
  • West. Mail, 2 Nov. 1949;
  • Y Goleuad, 14 Rhag. 1949;
  • Glyn Lewis Jones, Llyfryddiaeth Ceredigion, 1600-1964.

Awdur:

Griffith Milwyn Griffiths, M.A., Aberystwyth