JONES, DANIEL EVAN (1860 - 1941), awdur

Enw: Daniel Evan Jones
Dyddiad geni: 1860
Dyddiad marw: 1941
Priod: Hilda Victoria Jones (née Smith)
Rhiant: John Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: awdur
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: John Evans

Ganwyd 22 Medi 1860 yn Soar, Llangeler, Sir Gaerfyrddin, yn fab i John Jones a'i briod, Bargod Villa, Dre-fach. Addysgwyd ef yn yr ysgolion lleol ac academi Pen-rhiw gan y Parch. W. E. Davies. Yn ieuanc bu'n saer maen ac adeiladydd pontydd. Yn ddiweddarach bu'n cadw ffatrïau gwlanen a brethyn yn Nhre-fach, Llandysul a Machen. Meithrinodd dueddiadau llenyddol er yn ieuanc. Yn 1899 cyhoeddodd Hanes Plwyfi Llangeler a Phenboyr, cyfrol a ddengys ymchwil manwl a llafurus. Testun gwobr eisteddfod Dyfed Awst 1897 oedd y llyfr. Enillodd hefyd wobr y Western Mail mewn cystadleuaeth niferus am drosi ' Ar lan Iorddonen ddofn ' i'r Saesneg. Bu farw 18 Awst 1941 yn Llaintarad, Llangeler, yn 80 mlwydd oed, a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Penrhiw.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.