JONES, ELIAS HENRY (1883 - 1942), gweinyddwr ac awdur

Enw: Elias Henry Jones
Dyddiad geni: 1883
Dyddiad marw: 1942
Priod: Mair Olwen Jones (née Evans)
Rhiant: Annie Jones (née Walker)
Rhiant: Henry Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinyddwr ac awdur
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Gwasanaethau Cyhoeddus a Chymdeithasol, Gweinyddiaeth Sifil
Awdur: Emyr Gwynne Jones

Ganwyd yn Aberystwyth 21 Medi 1883, mab hynaf Syr Henry Jones ac Annie Walker. Addysgwyd ef yn ysgol uwchradd Glasgow, Prifysgol Glasgow, Prifysgol Grenoble a choleg Balliol, Rhydychen. Wedi cael ei alw i'r Bar, llwyddodd yn yr arholiadau ar gyfer gradd weinyddol Gwasanaeth Gwladol yr India, ac ym 1905 aeth i Bwrma i wasanaethu. Ymddeolodd ym 1922, ac yntau ar y pryd yn dal swydd Comisiynydd Cyllidol; daeth i fyw i Fangor, Arfon, ac am y deng mlynedd nesaf bu ganddo ddiddordeb effro yn y mudiad heddwch rhyngwladol ac mewn addysg yng Nghymru. O 1927 hyd 1933 ef ydoedd golygydd The Welsh Outlook. Ym 1933 penodwyd ef yn gofrestrydd coleg y Brifysgol, Bangor, swydd a ddaliodd hyd ei farwolaeth 22 Rhagfyr 1942.

Adwaenir E. H. Jones yn orau fel awdur The Road to Endor, clasur o hanes dianc trwy ystryw yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Ymunodd Jones â Byddin yr India a dyrchafwyd ef yn swyddog yn union cyn iddo gael ei gymryd yn garcharor gan y Twrciaid wedi cwymp Kut-el-Amara. Yna gorfu iddi ymuno mewn ymdaith o saith can milltir i Yozgad - ymdaith a fu'n angau i un o bob saith o'r carcharorion. Wedi bod yn garcharor am dair blynedd, rhyddhawyd ef a chydymaith iddo, ill dau'n ffugio bod yn wallgof, dim ond pythefnos cyn y Cadoediad. Printiwyd y llyfr ddwy ar bymtheg o weithiau, ac yna bu iddo dri argraffiad.

Priododd E. H. Jones ym 1913 Mair Olwen merch ieuengaf y Dr. Griffith Evans, Brynkynallt, Bangor.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.