JONES, JOSEPH (1877 - 1950), prifathro Coleg Coffa, Aberhonddu

Enw: Joseph Jones
Dyddiad geni: 1877
Dyddiad marw: 1950
Priod: Gwenllian Jones (née de Lloyd)
Rhiant: Jane Jones
Rhiant: Reuben Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: prifathro Coleg Coffa, Aberhonddu
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg
Awdur: David Joseph Davies

Ganwyd 7 Awst 1877 yn Fronfelen, Rhydlewis, Ceredigion, yn fab i Reuben a Jane Jones. Ym Mawrth 1882, symudodd y teulu i Gwmaman, Aberdâr, gan ymaelodi ym Moreia Aman, capel yr Annibynwyr. Cyfarfu'r tad a'i ddiwedd yn y lofa pan yn 35 oed, ac, o ganlyniad, bu raid i'r fam fentro ar gadw busnes laeth a Joseph, y mab 12 oed, adael yr ysgol o'i anfodd i weithio yn y pwll glô. Dechreuodd fel lamp-boy ac wedyn am nifer o flynyddoedd bu'n dilyn goruchwyliaeth peiriannydd. Cyn hir, gwelwyd defnydd ysgolor a phregethwr ynddo, a thrwy gefnogaeth eiddgar yr eglwys ym Moreia a'i gweinidog, Y Parch. H. Aeron Davies, ac ymdrech egnïol lwyddiannus ei fam gyda'i busnes laeth, penderfynodd Joseph Jones adael y pwll am y weinidogaeth Gristnogol. Dechreuodd bregethu ac wedi tymor byr yn ysgol uwchradd Aberdâr a'r Academi, o dan Mr. Dunmor Edwards, ym Mhontypridd, derbyniwyd ef i'r Coleg Coffa, Aberhonddu, yn 1896.

Dyma'n fras ei yrfa golegol: 1896-1901, coleg y Brifysgol, Caerdydd; gradd B.A., anrhydedd mewn Groeg; 1901-1904, Coleg Coffa, Aberhonddu, gradd B.D. (Cymru), yr Annibynnwr cyntaf i'w hennill; 1904-1907, coleg Mansfield, Rhydychen, exhibition i goleg Iesu, graddio mewn diwinyddiaeth yn y dosbarth blaenaf a chipio yr Hall Houghton Junior Greek Testament Prize agored i holl golegau'r Brifysgol.

Ac yntau heb orffen ei gwrs yn Rhydychen ond eisoes yn mwynhau clod fel ysgolhaig, apwyntiwyd ef yn Ionawr 1907 yn athro yn y Testament Newydd yn y Coleg Coffa, Aberhonddu. Dechreuodd ar ei waith Hydref 1907. Ar ddiwedd ei flwyddyn gyntaf fel athro, ordeiniwyd ef i'r weinidogaeth. Yn 1909, ymbriododd â Gwenllian de Lloyd, Aberystwyth. Cafodd ei ryddhau gan y coleg yn 1911 i ddilyn cyrsiau arbennig yn y Testament Newydd yn Heidelberg. Treuliodd ei oes yng ngwasanaeth y Coleg Coffa - 1907-1943 - fel Athro, ac yn 1943, ar ymneilltuad y Prifathro Thomas Lewis, fe'i apwyntiwyd yn Brifathro. Bu farw yn sydyn yn ei gartref yn Aberhonddu, 28 Ebrill 1950, a chladdwyd ef yng nghladdfa gyhoeddus Aberhonddu.

Breintiwyd Joseph Jones â doniau eithriadol. Daeth i amlygrwydd mawr fel pregethwr, addysgydd, gwladweinydd eglwysig ac arweinydd cymdeithasol. Prin y gellir croniclo'r holl swyddi a'r safleoedd y galwyd ef iddynt. Bu'n amlwg iawn ym mywyd sir Frycheiniog - aelod o'r cyngor sir, 1913-48 : cadeirydd y cyngor sir, 1940-42; henadur, 1948-50; cadeirydd pwyllgor addysg y sir, 1919-50. Yr oedd yn ynad heddwch ym mwrdeisdref Aberhonddu.

Daeth yn arbennig o amlwg ym myd addysg, yn awdurdod digamsyniol. Gwasanaethodd ar wahanol bwyllgorau fel y Burnham, Hadow a Spens, a chynrychiolai Gymru ar Bwyllgor Norwood. Yr oedd yn aelod o Gymdeithas y Cynghorau Sir ac yn Is-lywydd Ffederasiwn y Pwyllgorau Addysg. Bu'n amlwg iawn ar gynghorau Prifysgol Cymru, ac yn aelod byw o'r Llys a'r Cyngor, ac ar gyrff llywodraethol amryw o'r colegau. Yr oedd yn Ddeon Diwinyddiaeth 1931-34. Ymgeisiodd fel Rhyddfrydwr am sedd Prifysgol Cymru yn 1924 a daeth o fewn wyth pleidlais i'w hennill. Fel cydnabyddiaeth o'i wasanaeth mawr i addysg Cymru, rhoes y Brifysgol y radd o LL.D iddo yn 1949. Yr un flwyddyn, etholwyd ef yn gadeirydd cyntaf y Cyd-bwyllgor Addysg Cymreig.

Bu'n deyrngar iawn i'w enwad ac i anghydffurfiaeth. Meddai ar ddoniau y gwir wladweinydd eglwysig. Bu'n gadeirydd Undeb yr Annibynwyr yn 1946; yn gadeirydd Cyngor yr Undeb am flynyddoedd. Etholwyd ef yn llywydd Cyngor Eglwysi Rhyddion Lloegr a Chymru yn 1950.

Yr oedd yn bregethwr poblogaidd a galw mawr am ei wasanaeth. Rhoed iddo ddawn ymadrodd llyfn. Nid oedd ball ar ei eiriau na diffyg ar ei gof. Ei ddiddordeb mawr oedd pregethu, a'i hoff waith oedd dehongli'r Testament Newydd i dô ar ôl tô o bregethwyr ieuainc.

Cyhoeddodd Esboniad ar Efengyl Mathew, (dwy gyfrol) 1912-13; Cymrodoriaeth Gristnogol, 1946; Personal Christian Responsibility, 1950. Bu'n golygu 'r Cennad Hedd am dipyn; yn gyd-olygydd y gyfrol Brecon and Radnor Congregationalism, 1912; yn gyfrifol am flynyddoedd am ' Letter from Wales ' yn y Christian World. Ysgrifennodd erthyglau i'r Geiriadur Beiblaidd ac i lawer o gyfnodolion.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.