Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



LEWIS, ALUN (1915-1944), bardd; g. 1 Gorff. 1915 yn Aberdâr, mab Thomas John Lewis, ysgolfeistr, a Gwladys Elizabeth (née Evans). Cafodd ei addysg yn ysgol elfennol Glynhafod, 1920-26, ysgol ramadeg y Bont-faen, 1926-32, Coleg y Brifysgol, Aberystwyth, 1932-35 (B.A., gydag anrhydedd mewn hanes), Prifysgol Manceinion, 1935-37 (M.A. ar ôl arbenigo yn hanes y canol oesoedd), a thrachefn yn Aberystwyth, 1937-38. Bu'n athro am gyfnod yn ysgol Lewis, Pengam, eithr ymunodd â'r fyddin ym mis Mai 1940 heb aros am ei alw. Yr oedd wedi dechrau ysgrifennu i gyfnodolion llenyddol yn 1938; yn 1940-41 yr oedd yn un o gychwynwyr antur y ‘Caseg Broadsheets’. Ar 5 Gorff. 1941 pr. Gweno Ellis, Aberystwyth. Y flwyddyn honno ymddangosodd ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth, Raiders’ Dawn; yn 1942 cafwyd cyfrol o ystorïau byrion, The Last Inspection. Gwnaethpwyd ef yn swyddog yn y fyddin ym mis Hyd. 1941 a'r flwyddyn wedyn aeth i'r India. Ar 5 Mawrth 1944, ac yntau yn lifftenant yn chweched bataliwn y South Wales Borderers, bu f. yng ngwasanaeth ei wlad ar y ffrynt yn Arakan. Cyhoeddwyd ail gyfrol o farddoniaeth, Ha, ha! Among the Trumpets, wedi ei farw; cafwyd yn 1946 ddetholiad o'i lythyrau at ei rieni a'i wraig, Letters from India; cyhoeddwyd hefyd (1948) ystorïau na chasglwyd mohonynt cyn hynny ynghyd ag ad-argraffiad o'r llythyrau o'r India yn In the Green Tree. Ni bu iddo ef a'i wraig blant.

Llyfryddiaeth:

  • In the Green Tree (rhagair gan A. L. Rowse ac ôl-ysgrif gan Gwyn Jones).

Awdur:

Yr Athro Gwyn Jones, M.A., (1907-99), Aberystwyth / Caerdydd