Enillodd radd D.Litt. (Cymru) a D.Sc. (Llundain). Yr oedd yn arloeswr yn hanes gwledig a chymdeithasol Cymru, a chyhoeddodd amryw lyfrau ar y gwaith hwn yn gynnar yn ei yrfa. Yn 1912 cyhoeddodd Mediaeval Boroughs of Snowdonia sydd hyd heddiw yn llyfr safonol, ac un a agorodd y ffordd i waith mwy diweddar ar ddatblygiad y fwrdeisdref yng Nghymru. Ychydig flynyddoedd cyn hyn ysgrifennodd ‘Decay of Tribalism in North Wales’ (Trans. Cymm. 1902-3) — astudiaeth argraffiadol a oedd yn dangos cryn fesur o weledigaeth, a hefyd amryw ysgrifau ar hanes masnach yng Nghymru (Cymm., xiv., Trans. R.H.S., xvii, 1903), a oedd yn baratoad i'r gwaith pwysig a gyflawnodd bellach ymlaen, sef Welsh Port Books (Cymm. Rec. Ser. xii, 1927).
Er na chyflawnodd Lewis — oherwydd pwysau trymion ei ddyletswyddau academaidd — holl addewid ei ddyddiau cynnar, gwnaeth lawer, tra oedd yn athro economeg, i ddeffro a hyrwyddo diddordeb cenhedlaeth ar ôl cenhedlaeth o fyfyrwyr yn hanes eu gwlad.
Yn 1930 ymgymerodd yn gyfan gwbl â gwaith ymchwil, a gwariodd bron ei holl amser yn paratoi calendrau o lawysgrifau. Er na chafodd amser i gwpláu ei gynlluniau, cyhoeddwyd dau galendr o'i eiddo — yr ail ar ôl ei farw — sef Early Chancery Proceedings (Caerdydd, 1937) a Augmentations Proceedings (Caerdydd, 1950). Ceir hefyd destunau hanesyddol gwerthfawr ganddo mewn gwahanol gyfrolau o B.B.C.S. a West Wales Hist. Records.
Yr Athro Thomas Jones Pierce, M.A., F.S.A., (1905-1964), Aberystwyth