Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



LEWIS, HENRY GETHIN (1872-1945), marsiandwr a dyn busnes; g. 5 Ebrill 1872, ym Mhontlotyn, sir Fynwy, mab James a Margaret Lewis. Aeth i ysgol Lewis, Pengam, ac wedi hynny i swyddfa ewythr iddo a oedd yn ben ar y ‘Bute Works Supply Co.’, Caerdydd. Bu yn y busnes hwnnw 21 mlynedd gan ddyfod yn bartner a phan wnaethpwyd y cwmni yn un ‘cyfyngedig’, yn gyfarwyddwr ac yn ysgrifennydd. Cynullodd gyfres o dablau a gyhoeddwyd (yn Y Fenni, 1899) o dan y teitl — Redemption Hire, Deferred Purchase, and Easy Payment Tables; mabwysiadwyd y rhai hyn fel safon gan y ‘Wagon Building and Financing Corporation’. Yn 1911 sefydlodd gwmni’ Henry G. Lewis and Co., Ltd.rolling-stock proprietors’ ac yn ystod Rhyfel 1914-18 bu'n cyflenwi'r Mor-lys â gwageni i gario glo at bwrpas llongau rhyfel; ar ddiwedd y Rhyfel yr oedd yn un o'r hurwyr-wageni mwyaf ym Mhrydain. Yr oedd ei haelioni yn cydgerdded â'i lwyddiant. Yn 1927 prynodd Wern-fawr, Harlech, a fuasai'n gartref George Davidson, ac fe'i cyflwynodd yn rhodd i gychwynwyr Coleg Harlech. Prynodd hefyd a chyflwynodd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru, lyfrgell Geltaidd E. C. Quiggin. Bu'n uchel siryf Morgannwg, 1920-21, ac yr oedd yn aelod o Lys a Chyngor y Llyfrgell Genedlaethol, ac yn drysorydd Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol. Rhoddodd Prifysgol Cymru iddo radd Ll.D. (‘er anrhydedd ‘) yn 1928. Pr., yn 1897, Ann, merch Jenkin Llewellyn, Penarth, sir Forgannwg, a bu iddynt wyth o blant. Ym Mhorthceri, gerllaw Barri, yr oedd eu cartref am flynyddoedd lawer; ac yno y bu Lewis f. ar 9 Chwef. 1945.

Llyfryddiaeth:

  • WwW;
  • adnabyddiaeth bersonol.

Awdur:

Thomas Jones, C.H., M.A., Ll.D., (1870-1955), Aberystwyth / Birchington, Kent