Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



MACHEN, ARTHUR (1863-1947) a gyfenwyd yn ARTHUR LLEWELLIN JONES i gychwyn, awdur; g. 3 Mawrth 1863. Treuliodd flynyddoedd ei ieuenctid yn rheithordy Llanddewi Fach yn ymyl Caerlleon-ar-Wysg a bu yn ysgol eglwys gadeiriol Henffordd hyd nes oedd yn 17 oed. Wedi treulio peth amser yn Llundain, bron a llewygu, daeth i feddu incwm annibynnol am gyfnod a chyhoeddi rhai o'i ystorïau cynnar gorau. Yr oedd eisoes wedi ysgrifennu cyfieithiad o waith Casanova a dau waith efelychiadol — The Anatomy of Tobacco, 1888, a The Chronicle of Clemendy, 1884. Yn 1900 yr oedd yn aelod o gwmni drama crwydrol F. R. Benson. Wedi hynny bu'n ysgrifennu i newyddiaduron; cyhoeddwyd dau o'i weithiau mwyaf adnabyddus yn y newyddiadur yr ysgrifennai iddo. The Bowman, a gyhoeddwyd yn yr Evening News, 29 Medi 1914, a roes gychwyn i stori ‘Angel Mons’ yn ystod Rhyfel 1914-18. Cyhoeddwyd ei waith hunan-gofiannol cyntaf, Far Off Things (1923), o dan deitl arall yn yr Evening News yn 1915; cynhwysai'r gwaith hwn atgofion pleserus wedi eu hysgrifennu mewn ysbryd aeddfed a phrofiadol. Erbyn heddiw daeth yr awdur yn enwog am ei storïau am y byd arall sydd yn ymylu ar fywyd realiti; ofn a dychryn ydyw'r cyweirnod iddynt; yn Hieroglyphics, The Hill of Dreams, a The Children of the Pool y ceir yr esiamplau mwyaf adnabyddus (gw. rhestr yn Who's Who). Er ei dueddiadau Catholig ni thorrodd ei gysylltiad â'r Eglwys Anglicanaidd. Pr. ddwywaith a bu iddo fab a merch o'r ail wraig. Ymneilltuodd i Amersham yn 1929 a daeth yn enwog fel ymgomiwr mewn cwmni. Cafodd bensiwn sifil y Llywodraeth yn 1932. Bu f. 15 Rhag. 1947.

Llyfryddiaeth:

  • The Times, 16 Rhag. 1947;
  • gwybodaeth gan Leslie Miller.

Awdur:

Cecil John Layton Price, Ph.D. (1915-91), Aberystwyth / Abertawe