NORTH, HERBERT LUCK , (1871-1941), pensaer;
g. yng Nghaerlŷr yn 1871, yn fab i Thomas a Fanny North. Addysgwyd ef yn ysgol Uppingham a Choleg Iesu, Caergrawnt, lle y graddiodd yn B.A. Yn 1897 priododd Ida Maude Davies, a bu iddynt un ferch. Daeth i fyw i Lanfair Fechan, sir Gaernarfon, ac ymddiddori yn hen adeiladau ardal Eryri. Cyhoeddodd The Old Churches of Arllechwedd, Bangor, 1906. The Old Cottages of Snowdonia, Bangor, 1908 (gyda H. H. Hughes fel cyd awdur), a The Old Churches of Snowdonia, Bangor, 1924 (eto gyda H. H. Hughes fel cyd awdur). Bu f. 9 Chwef. 1941.
Awdur:
Griffith Milwyn Griffiths, M.A., Aberystwyth