Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



OWEN, EDWARD (1853-1943), bargyfreithiwr, swyddog yn y gwasanaeth sifil, hynafiaethydd, a hanesydd; g. ym Mhorthaethwy, Sir Fôn, 9 Mawrth 1853, unig fab Edward a Sarah Owen a fu am gyfnod yn ddirprwy prif gwnstabl sir Fôn. Symudodd y teulu i Gaergybi yn 1863. Addysgwyd ef yn ysgol John Evans ym Mhorthaethwy, ac mewn ysgol breifat yn Nulyn. Efe oedd y Cymro cyntaf i gael ei dderbyn i'r gwasanaeth sifil ar bwys arholiad; dechreuodd weithio yn yr India Office c. 1873 a bu yno hyd nes ymddeolodd yn 1913. Yn ystod y trigain mlwydd y bu'n byw yn Llundain treuliai ei holl oriau seibiant yn darllen a chopïo yn yr Amgueddfa Brydeinig a'r Archifdy Gwladol. Ysgrifennodd lawer i gyhoeddiadau Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion ac i Archaeologia Cambrensis; y Cymmrodorion a gyhoeddodd, mewn pedair cyfrol, ei Catalogue of the Manuscripts relating to Wales in the British Museum; ceir yn adroddiad y comisiwn brenhinol ar dir Cymru, a ddechreuodd ar ei waith yn 1893, adran wedi ei hysgrifennu ganddo ef ar gyfnewidiadau yn nulliau dal tir yng Nghymru yn y Canol Oesoedd; gyda'i gyfaill, Alfred Neobard Palmer (q.v.), cyhoeddodd, yn 1910, Ancient Tenures of Land in North Wales and the Marches. Efe oedd ysgrifennydd cyntaf y Comisiwn Brenhinol ar Henebion Cymru yn 1908; a golygodd adroddiadau'r comisiwn hwnnw hyd tua 1927. Bu'n ddarllenydd mewn Hynafiaethau Cymreig ym Mhrifysgol Lerpwl, 1921-43. Cafodd radd M.A. er anrhydedd gan y Brifysgol honno yn 1921, a medal aur Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion yn 1923. Bu f. 8 Tach. 1943, yn 91 mlwydd oed, a chladdwyd ef dri diwrnod yn ddiweddarach ym mynwent S. Seiriol, Caergybi, lle y claddwyd ei wraig gyntaf a'i ferch fechan flynyddoedd cyn hynny.

Llyfryddiaeth:

  • Trans. Angl. Antiq. Soc., 1943, 19-20;
  • West. Mail, 11 Tach. 1943;
  • WwW, 1920.

Awdur:

Hugh Owen, M.A., F.S.A., (1880-1953), Llanfair-pwll, Môn