OWEN, JOHN JONES (1876 - 1947), cerddor

Enw: John Jones Owen
Dyddiad geni: 1876
Dyddiad marw: 1947
Rhiant: Mary Owen
Rhiant: Hugh Owen
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cerddor
Maes gweithgaredd: Cerddoriaeth; Perfformio
Awdur: Robert David Griffith

Ganwyd 2 Mai 1876 ym Mryn-y-coed, Tal-y-sarn, Sir Gaernarfon, mab Hugh a Mary Owen; yr oedd yn frawd i Richard Griffith Owen, ' Pencerdd Llyfnwy '. Cafodd addysg gerddorol dda, a dysgodd ganu'r organ a'r feiola. Bu'n arweinydd côr merched Dyffryn Nantlle a gafodd wobr yn eisteddfod genedlaethol Caerdydd, 1897. Penodwyd ef yn organydd capel M.C. Tal-y-sarn, ac yn olynydd i'w dad fel arweinydd y canu. Cyhoeddodd amryw ddarnau cerddorol, a bu ei anthem, ' Llusern yw dy air i'n traed ', y ganig, ' Yr Afonig ', a ' Lw-li-bei ' (i blant) yn boblogaidd. Yn 1921 ymfudodd i Unol Daleithiau'r America, ac yno graddiodd yn Mus.Bac. Penodwyd ef yn organydd a chôrfeistr Eglwys Efengylaidd Wilkesbarre. Gwasanaethodd fel beirniad ac arweinydd cymanfaoedd canu, ac ef oedd arweinydd Côr Meibion Orpheus y dref. Bu farw 21 Ebrill 1947, a chladdwyd ef ym mynwent Mynydd Greenwood, Wilkesbarre.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.