PRICE, JOHN ARTHUR (1861 - 1942), bargyfreithiwr a newyddiadurwr

Enw: John Arthur Price
Dyddiad geni: 1861
Dyddiad marw: 1942
Priod: Emily Ann Price (née Foster)
Rhiant: Amelia Ann Price
Rhiant: John Price
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bargyfreithiwr a newyddiadurwr
Maes gweithgaredd: Crefydd; Cyfraith; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: Edward Morgan Humphreys

Ganwyd 20 Tachwedd 1861, mab John Price, cyfreithiwr, yr Amwythig, a'i briod, Amelia Ann. Bu yn Ysgol Amwythig ac yng Ngholeg Balliol, Rhydychen, gan gymryd ei radd B.A. yn 1881. Galwyd ef at y Bar yn Lincoln's Inn yn 1889, a gwnaeth y gyfraith eglwysig yn faes arbennig. Gwnaeth lawer o waith fel newyddiadurwr, gan ysgrifennu i'r Saturday Review, y Manchester Guardian, a chyhoeddiadau eraill, a bu am flynyddoedd ar staff y Church Times. Yn Rhydychen cyfarfu ag amryw Gymry ieuanc eraill, yn eu plith Syr J. E. Lloyd, yr hanesydd, a daeth i fod yn genedlaetholwr Cymreig argyhoeddedig o hynny hyd ddiwedd ei oes. Yr oedd yn Eglwyswr defosiynol ond dadleuai o blaid datgysylltiad yr Eglwys yng Nghymru am y credai mai dyna oedd orau er mwyn yr Eglwys ei hun. Adroddodd hanes ei 'droedigaeth' at genedlaetholdeb Cymreig a'i gysylltiadau â bywyd crefyddol a gwleidyddol Cymru mewn cyfres o ' Atgofion ' a ysgrifenwyd ganddo i'r Genedl Gymreig yn 1925. Y mae ei ysgrifau ar T. E. Ellis yn Welsh Political and Educational Leaders in the Victorian Era ac ar Syr Ellis Griffith yn y Welsh Outlook ymhlith y pethau gorau a ysgrifenwyd amdanynt. Yn 1941 penodwyd ef yn Ganghellor Esgobaeth Bangor. Priododd 6 Medi 1904, Emily Ann, merch Major Maurice Foster, Egryn Abbey, Ardudwy; bu hi farw o'i flaen. Bu yntau farw 3 Mehefin 1942.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.