PROSSER, DAVID LEWIS (1868 - 1950), archesgob

Enw: David Lewis Prosser
Dyddiad geni: 1868
Dyddiad marw: 1950
Rhiant: Elizabeth Prosser
Rhiant: David Prosser
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: archesgob
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Thomas Iorwerth Ellis

Ganwyd 10 Mehefin 1868, mab David Prosser, o'r Tŷ Gwyn, Llangynnwr, ger Caerfyrddin, ac Elizabeth ei wraig. Cafodd ei addysg yn ysgol Llanymddyfri a choleg Keble, Rhydychen, lle y graddiodd gydag anrhydedd yn y trydydd dosbarth mewn Hanes; cymerodd ei B.A. yn 1891 a'i M.A. yn 1895. Ordeiniwyd ef yn ddiacon, 18 Rhagfyr 1892, gan yr esgob Basil Jones o Dyddewi, a'i drwyddedu i guradaeth eglwys y Drindod Sanctaidd, Aberystwyth. Cafodd urddau offeiriad gan John Lloyd, esgob (cynorthwyol) Abertawe, 21 Rhagfyr 1893. Yn 1896 aeth yn gurad i Eglwys Crist, Abertawe, a bu yno hyd ei godi yn 1909 yn ficer Doc Penfro. Penodwyd ef yn archddiacon Tyddewi yn 1920, a chysegrwyd ef yn esgob Tyddewi, i ddilyn John Owen, 2 Chwefror 1927. Yn 1944 dewiswyd ef yn archesgob Cymru i olynu C. A. H. Green a daliodd y swydd honno hyd 1949. Bu farw 28 Chwefror 1950, yn Abergwili, ac yno claddwyd ef.

Ysgrifennodd rai llyfrynnau defosiynol, ac yn 1949 derbyniodd radd LL.D. er anrhydedd gan Brifysgol Cymru.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.