Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



REES, GEORGE (1873-1950), bardd ac emynydd; g. 20 Ion. 1873 yn y Dinas, Cwm Rhondda, Morgannwg. Yn fuan wedi ei eni symudodd ei rieni i fyw i Ben-y-graig, ac yno y magwyd ef. Wedi derbyn ei addysg yn yr ysgol elfennol aeth i weithio i'r lofa, a chafodd gwrs o addysg i'w gymhwyso i fod yn swyddog glofa. Yn 1900 priododd Kate Ann, merch Thomas Roberts, prif gyfrifydd yn Chwarel Oakeley, Blaenau Ffestiniog. Ymsefydlodd mewn masnach ym Mhont Rhondda, ac wedi hynny yn Llundain ac yn Abertyleri, sir Fynwy. Penodwyd ef i swydd gyfrifol mewn swyddfa cwmni yswiriant yn Llundain, lle y gwasanaethodd hyd ei ymneilltuad yn 1941, pan ddaeth i fyw i Brestatyn, sir Fflint. Wedi colli ei briod yn 1945, aeth i fyw at ei ferch, priod yr Athro R. H. Evans (Prifysgol Leeds), Headingley, Leeds. Yr oedd yn fardd a llenor da. Ysgrifennodd lawer i'r cylchgronau, ac enillodd wobrwyon yn yr eisteddfodau cenedlaethol canlynol: — Lerpwl, 1929, ar y cywydd ‘Machlud Haul’; ym Mhwllheli, 1925, ar yr englyn ‘Balm’; Abertawe, 1926, ‘Ty to Gwellt’, (cyd-fuddugol ag Eifion Wyn’); Treorci, 1928, ‘Colyn’; Aberafan, 1932, ‘Cyfaill’. Cyfansoddodd amryw o emynau, ac ystyrir ei emyn ‘O Fab y Dyn, Eneiniog Duw, fy Mrawd’ yn un o emynau mwyaf y ganrif. Bu f. 1 Medi 1950 yn nhŷ ei ferch yn Leeds, a chladdwyd ef ym mynwent Willesden Green, Llundain, 6 Medi 1950.

Llyfryddiaeth:

  • Trys. Plant, Chwef. 1938;
  • Yr Eurgrawn, 1934;
  • J. Thickens, Emynau 1945;
  • Y Goleuad, 6 Medi, 11 a 25 Hyd. 1950.

Awdur:

Robert David Griffith, M.A., (1877-1958), Hen Golwyn

Atodiadau a chywiriadau:

REES, GEORGE (Bywg.2, 48) Ei enw iawn oedd GEORGE REES HEYCOCK a hanai ei rieni o ardal Pont-rhyd-y-fen, a Phwll-y-glaw, Cwmafan, Morg. Newidiodd ei enw yn Llundain pan ddechreuwyd ei gymysgu â gwerthwr llaeth arall â'r cyfenw Maycock. Gw. Ser. Cymru, 21 Hyd. 1973. Casglwyd gwaith George Rees gan Brynley F. Roberts, O Fab y Dyn (1976).