REES, JOHN THOMAS (1857-1949), cerddor;
g. 14 Tach. 1857 yng Nghwmgïedd, Ystradgynlais, sir Frycheiniog. Ychydig o ysgol a gafodd gan iddo fynd i weithio mewn glofa pan oedd yn wyth oed. Pan oedd yn löwr yn Ystradgynlais, Dyffryn Rhondda, ac Aberdâr, cafodd ddisgyblaeth gerddorol dda trwy gyfrwng nodiant y tonic sol-ffa. Pan oedd yn 21 oed daeth i beth amlygrwydd fel cyfansoddwr cantata a anfonwyd ganddo i gystadleuaeth mewn eisteddfod yn Nhreherbert. Crewyd cronfa fechan gan gyfeillion, a thrwy gymorth hon galluogwyd ef i dreulio ychydig amser yn Aberystwyth o dan hyfforddiant Dr. Joseph Parry. Yn 1895 enillodd wobr o ugain punt yn eisteddfod genedlaethol Aberdâr am bedwarawd i offerynnau llinynnol. Yn gynnar wedyn graddiodd yn Mus.Bac. ym Mhrifysgol Toronto; ychydig yn ddiweddarach, yn ystod ymweliad â'r America, bu ganddo swydd yno. Wedi iddo ddychwelyd i Gymru ymsefydlodd yn Bow Street, gerllaw Aberystwyth, fel athro dosbarth oedolion yn astudio cerddoriaeth, fel arweinydd corau gwlad a berfformiai oratoriau a gweithiau cyffelyb, ac, yn ddiweddarach, fel athro amser-byr yng Ngholeg Aberystwyth. Daeth yn adnabyddus trwy Gymru fel cyfansoddwr llawer o donau ac anthemau, arweinydd cymanfaoedd canu, a beirniad mewn eisteddfodau. Bu am flynyddoedd yn athro cerdd rhan amser yn Ysgol Sir Tregaron. Daeth ei bennaf ddiddordeb i'r amlwg mewn llu o gyfansoddiadau crefyddol, yn cynnwys ‘Duw sydd Noddfa’ (gwobrwyedig yn eisteddfod genedlaethol Aberdâr, 1890), ‘Y Teulu Dedwydd’ (cantata), ‘Crist yr Andes’ (cantata i blant), ‘Hosannah’ a ‘Christos’ (gosodiadau o wasanaethau i blant). Ymysg gweithiau cyhoeddedig eraill y mae ‘String Quartet’ (1895), ‘Y Trwbadŵr’ (seiliedig ar eiriau yng ngwaith Dafydd ap Gwilym) mewn cydweithrediad ag S. M. Powell yn Nhregaron, a ‘Hillsides of Wales’ (i feiolin a piano). Golygodd gasgliad o donau gan Dafydd Lewis, Llanrhystud, Perorydd yr Ysgol Sul (casgliad o donau ac anthemau i blant), ac yr oedd yn gyd-olygydd Llyfr Hymnau a Thonau y Methodistiaid Calfinaidd (1897) ac Emynau a Thonau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleyaidd (1927).
Awdur:
Yr Athro David Ewart Parry Williams, D.Mus., (1900-96),