RHYS, ERNEST (PERCIVAL) (1859 - 1946), bardd, awdur, a golygydd

Enw: Ernest (Percival) Rhys
Dyddiad geni: 1859
Dyddiad marw: 1946
Priod: Grace Rhys (née Little)
Rhiant: Emma Rhys (née Percival)
Rhiant: John Rhys
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd, awdur, a golygydd
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Barddoniaeth
Awdur: William Llewelyn Davies

Ganwyd 17 Gorffennaf 1859 yn Islington, Llundain, mab John Rhys, gŵr o Gaerfyrddin a weithiai mewn siop cyhoeddwyr yn Llundain, a'i wraig Emma, merch Robert Percival, Hockerell, sir Hertford. Yn fuan wedi geni'r mab symudodd y rhieni i Nott Square, Caerfyrddin, ac mewn ysgol yn y dref honno y cafodd Ernest Rhys ddechrau ei addysg; o Gaerfyrddin symudodd y teulu i Newcastle-on-Tyne. Anfonwyd Rhys i Ysgol Ramadeg Bishop's Stortford, yn sir enedigol ei fam; bu wedyn mewn ysgol ddyddiol yn Newcastle-on-Tyne. Arfaethai'r tad iddo fynd i Brifysgol eithr dewisodd yn hytrach fyned i ymgymhwyso fel peiriannydd mewn mwnau glo. Treuliodd rai blynyddoedd yn y gwaith hwnnw yn Langley a phasio arholiad peiriannydd. Eithr gan mai mewn llenydda yr oedd ei brif ddiddordeb penderfynodd fyned i Lundain ac aeth yno fis Ionawr 1886.

Fe gysylltir enw Ernest Rhys am amser maith eto â golygyddiaeth yr ' Everyman's Library ' a gyhoeddir gan ffyrm J. M. Dent; o c. 1886, pryd y dechreuwyd cyhoeddi (1906 yn ôl y D.N.B.), hyd 1950 yr oedd agos i fil o wahanol lyfrau wedi eu cynnwys yn y gyfres hon - a Rhys yn parhau hyd adeg ei farw yn olygydd cyffredinol; dechreuasai, yn 1886, olygu cyfres arall - y ' Camelot Series ' - i'r un cyhoeddwr. Y mae a fynno llawer o weithiau gwreiddiol Rhys (a rhai o'r cyfrolau yn ' Everyman ' a olygai ef yn bersonol) â barddoniaeth, rhamant, a llên-gwerin Cymru neu'r gwledydd Celtaidd eraill; am fanylion gweler Who's Who, 1946, a'r ddau waith hunangofiannol a enwir yn y rhestr ffynonellau (isod). Priododd Grace (bu farw 1929), merch Bennett Little, sir Roscommon, Iwerddon, a bu iddynt 3 o blant; yr oedd hithau yn awdures; am ei llyfrau hi gweler Who's Who, 1946 - yn eu plith y mae A Celtic Anthology, 1927. Er mai yn Llundain yr oeddynt yn byw fynychaf, treuliodd Ernest a Grace Rhys lawer o'u hamser yng Nghymru. Darllennid llawer, yn nechrau'r 20fed ganrif, ar ei ' Welsh Literary Notes ' a arferai ymddangos bob dydd Sadwrn yn y Manchester Guardian. Ymysg gweithiau Cymreig (neu Geltaidd) Rhys y mae The Fiddler of Carne, (1896), Welsh Ballads, 1898, The Whistling Maid, 1900, Lays of the Round Table, 1908, a The South Wales Coast, 1911; cyhoeddodd hefyd Readings from Welsh History, gwaith y defnyddid cryn lawer arno yn ysgolion Cymru ar un adeg. Bu farw 25 Mai 1946 yn Llundain.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.