RHYS, EDWARD PROSSER (1901 - 1945), newyddiadurwr, llenor, a chyhoeddwr

Enw: Edward Prosser Rhys
Dyddiad geni: 1901
Dyddiad marw: 1945
Priod: Mary Prudence Rhys (née Hughes)
Rhiant: Elizabeth Rees
Rhiant: David Rees
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: newyddiadurwr, llenor, a chyhoeddwr
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Barddoniaeth; Argraffu a Chyhoeddi
Awduron: Katherine Williams, Evan David Jones

Ganwyd 4 Mawrth 1901 yn Pentremynydd, yn ardal Bethel (neu Trefenter fel y'i gelwir heddiw), Mynydd Bach, Sir Aberteifi, mab Elisabeth a David Rees. Gof o deulu o ofaint oedd ei dad. Symudodd y teulu wedi hynny i'r Morfa Du. Mynychai Ysgol Cofadail pan oedd yn fachgen, ac aeth i ysgol Ardwyn, neu yn iaith llyfr lòg ysgol Cofadail, 'Aberystwyth County School', Aberystwyth, yn Hydref 1914. Rhyw flwyddyn neu flwyddyn a hanner y bu yno gan i'w iechyd dorri i lawr, a bu gartref am tua thair blynedd yn wael. Wedi iddo wella aeth i weithio i swyddfa'r Welsh Gazette, Aberystwyth, ac yn 1919 aeth i Gaernarfon i swyddfa'r Herald Cymraeg. Dychwelodd i Aberystwyth yn 1921, a phan aeth Y Faner o Ddinbych i Aberystwyth yn 1923, penodwyd ef yn olygydd iddi, a bu'n olygydd Y Faner hyd ei farw ar 6 Chwefror 1945.

Dechreuodd ymhel â barddoniaeth yn gynnar a chyfrannodd gerddi i Gymru'r Plant pan yn ieuanc iawn. Yn 1924, yn eisteddfod genedlaethol Pont-y-pŵl, enillodd y goron ar ei bryddest 'Atgof', pryddest anghyffredin o ran ffurf a chynnwys, a phryddest a greodd dipyn o gynnwrf.

Ar ei briodas a Mary Prudence Hughes, Aberystwyth yn 1928, mabwysiadodd y ffurf Gymraeg Rhys ar ei gyfenw. Ganed iddynt un ferch. Yn y flwyddyn 1928 dechreuodd gyhoeddi llyfrau a ffurfio Gwasg Aberystwyth, gwasg a gynyddodd o flwyddyn i flwyddyn. Ffurfiodd y 'Clwb Llyfrau Cymraeg', a bu yntau'n llwyddiant.

Yn 1923, cyhoeddodd ef a J. T. Jones gyfrol o farddoniaeth ar y cŷd, sef Gwaed Ifanc (Hughes a'i Fab), ac ni chyhoeddwyd dim o'i farddoniaeth wedyn ag eithrio mewn cylchgronau ac ar y radio hyd 1950, pan gyhoeddwyd Cerddi Prosser Rhys gan Wasg Gee. Er ei fod yn fardd da, efallai mai fel golygydd a chyhoeddwr y bydd ei enw byw. Yr oedd yn aelod o Blaid Genedlaethol Cymru o'r cychwyn, a buan y dangosodd ei ysbryd cenedlaethol ar dudalennau'r Faner. Ond ni chafodd fod yn rhydd a dilyfethair yn ei ysgrifau hyd oni symudwyd Y Faner yn ôl i'w hen gartref yn Ninbych yn Ionawr 1939. Yn ei golofn wythnosol, 'Led-led Cymru', yn Y Faner, daeth yn gyfaill i bobl nad adwaenai ef fel arall. Dyn cefn gwlad ydoedd, a phan ysgrifennai am gymeriadau a llenorion cefn gwlad yr oedd ar ei orau.

Fel cyhoeddwr, denodd rai o brif lenorion Cymru i gyhoeddi eu llyfrau drwy ei wasg. Cyhoeddodd lyfrau ysgol hefyd.

Awduron

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.