Bu Salmon yn gyfrifol am dros 30 o gyhoeddiadau — llyfrau ysgol ac argraffiadau o glasuron Saesneg, gan mwyaf, a defnyddiwyd llawer ar rai ohonynt. Yr oedd iddo ddiddordeb arbennig mewn rhai agweddau ar hanes Cymru ac ysgrifennodd amryw erthyglau arnynt; yn eu plith y mae ‘A Welsh Education Commission’ (1846), yn Cymm., 1913; ‘The Quakers in Pembrokeshire’ yn West Wales Historical Records, 1923 a 1927, a ‘The Descent of the French on Pembrokeshire’, ibid. 1929 (ychwanegodd at yr erthygl hon a'i chyhoeddi'n waith ar wahan yn 1930); ‘A Sequel to the French Invasion of Pembrokeshire’, yn Cymm., 1932. Ysgrifennai lawer hefyd ar faterion hanesyddol lleol i newyddiaduron lleol sir Benfro.
Yn 1919 rhoes Prifysgol Cymru radd M.A. (‘er anrhydedd’) iddo. Pr. 1876, Mary Wiedhofft, Llundain (bu hi f. yn 1925) a bu iddynt 5 o blant. Bu f. 14 Rhag. 1944 yn Llanbedr Efelffre, sir Benfro.
Yr Athro Emeritus David Williams, D.Litt., (1900-78), Aberystwyth