SCOTT-ELLIS, THOMAS EVELYN, 8fed BARWN HOWARD DE WALDEN a 4ydd BARWN SEAFORD (1880 - 1946), tir-feddiannwr, awdur, a noddwr y ddrama a cherddoriaeth, &c.

Enw: Thomas Evelyn Scott-ellis
Dyddiad geni: 1880
Dyddiad marw: 1946
Priod: Margherita Dorothy Scott-Ellis (née van Raalte)
Rhiant: Blanche Ellis (née Holden)
Rhiant: Frederick George Ellis
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: tir-feddiannwr, awdur, a noddwr y ddrama a cherddoriaeth, &c.
Maes gweithgaredd: Perchnogaeth Tir; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Dyngarwch; Chwaraeon a Gweithgareddau Hamdden
Awdur: William Llewelyn Davies

Ganwyd 9 Mai 1880, unig fab Frederick George, 7fed barwn Howard de Walden, a Blanche, merch hynaf a chyd-aeres William Holden, Palace House, swydd Lancaster. Derbyniodd ei addysg yn ysgol Eton a'r Royal Military College, Sandhurst. Bu'n gwasanaethu yn rhyfel y Boeriaid yn Ne Affrica ac yn y Rhyfel Mawr, 1914-18. Dilynodd ei dad yn y bendefigaeth yn 1899. Rhoddir âch y teulu ac eglurir y modd yr oedd yr Arglwydd Howard de Walden yn disgyn o John Ellis (a oedd yn aelod o deulu yn byw yn ymyl Wrecsam ac a aeth i Jamaica yn ystod teyrnasiad Charles II) yn llyfrau Burke, Debrett, ac eraill ar y bendefigaeth; ychwanegwyd yr enw Scott gan yr Arglwydd Howard yn 1917. Priododd, 1912, Margherita Dorothy, merch Charles van Raalte a bu iddynt 6 o blant. Er nad yng Nghymru yr oedd seddau'r teulu bu'r 8fed arglwydd yn byw am flynyddoedd yng Nghastell y Waun, sir Ddinbych; byddai hefyd yn treulio peth amser yn Llanina, Sir Aberteifi. Yn 1929 prynodd yr hen blasty, Croesnewydd, a fuasai'n gartref ei hynafiaid. Heblaw bod yn noddwr hael i'r ddrama (yng Nghymru ac yn Llundain) ac i gerddoriaeth (e.e., cyd-weithio gyda Josef Holbrooke) yr oedd yn awdur ei hunan. I'r rhamantau Arthuraidd y troes am ddefnydd ei ddrama gyntaf; wedi hynny, cafodd ddefnydd rhai o'i weithiau ar gyfer yr opera yn llên-gwerin Cymru. Cyhoeddodd The Children of Don (1912), Pont Orewyn (1914), Lanval (1915), Song of Gwyn ap Nudd, Dylan (1919); The Cauldron of Annwn (1922), The Cauldron of Annwn including the story of Bronwen (1929) a The Five Pantomimes (1930). Yr oedd wedi cyhoeddi yn 1904, Banners, standards, and badges from a Tudor mansion, a Some Feudal lords and their seals. Perfformiwyd yn 1924 ddrama o'i waith yn delio â'r ymherawdr Heraclius a'i gysylltiad â Christionogaeth ac ag Islam.

Bu'r Arglwydd Howard yn llywydd Amgueddfa Genedlaethol Cymru am dair blynedd ac yn un o lywodraethwyr y Llyfrgell Genedlaethol am gyfnod; rhoes roddion i'r ddau sefydliad. Yr oedd yn LL.D. ('honoris causa') Prifysgol Cymru. Gwnaethpwyd ef yn un o ymddiriedolwyr Oriel y Tate, Llundain, yn 1938. Bu farw yn Llundain 5 Tachwedd 1946.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.