TANNER, PHILIP (1862-1950), ceidwad caneuon a dawnsiau gwerin;
g. yn Llangynydd ym Mroŵyr, 16 Chwef. 1862, gwehydd, o hen dylwyth o wehyddion, a'r olaf a wisgai frethyn cartre Broŵyr. Yn ei ieuenctid, gweithredai'n aml fel ‘gwahoddwr’ mewn priodasau. Cofiai nifer mawr o ganeuon gwerin ei fro, ac o'i dawnsiau gwerin hefyd, a chyda'i gymorth ef gallodd y ‘ Gower Society’ eu rhoi ar glawr a chadw. Bu f. 19 Chwef. 1950, ym Mhenmaen, Broŵyr.
Llyfryddiaeth:
- Marw-goffa yn Baner, 22 Chwef. 1950, ac mewn newyddiaduron eraill.
Awdur:
Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor.