THOMAS, JOHN EVAN (1884 - 1941), athro a llenor

Enw: John Evan Thomas
Dyddiad geni: 1884
Dyddiad marw: 1941
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: athro a llenor
Maes gweithgaredd: Addysg; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: David Thomas

Ganwyd yn Pen-y-groes, Llanllyfni, Gorffennaf 1884. Enillodd ar chwe thelyneg yn eisteddfod genedlaethol 1921. Golygodd The Normalite, 1909-10. Efe oedd awdur adroddiad athrawon sir Gaernarfon i'r Pwyllgor Adrannol ar Addysg Wledig yng Nghymru, 1928. Y mae ganddo ysgrifau, ' Y Gorffennol Di-farw ' (Winllan, 1925), ac ysgrifau a chaniadau yn Cymru, Y Deyrnas, Y Dinesydd Cymreig, etc. Yr oedd yn drysorydd ac yn un o sylfaenwyr Cyngor Llafur Gogledd Cymru, 1914-19. Bu'n brifathro ysgol gynradd Penmachno, ac yn athro dosbarthiadau pobl mewn oed. Bu farw 1 Ionawr 1941.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.