Ac yntau'n athro yng ngholeg Dewi Sant am ddeugain mlynedd a mwy, bu gan Wade ddylanwad mawr ar genedlaethau o fyfyrwyr, ac felly drwyddynt ar yr Eglwys yng Nghymru. Wrth ddysgu rhoddai bwys mawr ar drylwyredd, ac ar undod pob gwybodaeth. Mewn neges at ei fyfyrwyr wrth ffarwelio â hwynt mynegodd ei hyder y byddai iddynt fyth gynyddu mewn gwybodaeth a gwir dduwioldeb.
Cynhyrchodd nifer mawr o lyfrau (gw. rhestr yn Who's Who). Yn eu plith gellir enwi ei lyfr ar Hanes yr Hen Destament, a aeth i ddeuddegfed argraffiad erbyn 1934: llyfr cyffelyb ar y Testament Newydd, a gyhoeddwyd gyntaf yn 1922: esboniadau ar lyfr Genesis, ail lyfr Samuel, a'r rhan fwyaf o'r Proffwydi Bychain: a llyfr ar ddogfennau'r Testament Newydd, a gyhoeddwyd yn 1934. Yr oedd ganddo hefyd ddiddordeb yn naear Cymru a'r siroedd cyfagos, a chyhoeddwyd llyfrau o'i waith (ar y cyd) ar Dde Cymru, ar Sir Fynwy, ar Wlad yr Haf, ac ar swydd Henffordd.
Thomas Iorwerth Ellis, M.A., (1899-1970), Aberystwyth