WILLIAMS, WILLIAM ALBERT (1909 - 1946), organydd, beirniad, a chyfansoddwr

Enw: William Albert Williams
Dyddiad geni: 1909
Dyddiad marw: 1946
Priod: Glenys Williams (née Jones)
Rhiant: Anne Williams
Rhiant: Richard Williams
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: organydd, beirniad, a chyfansoddwr
Maes gweithgaredd: Cerddoriaeth; Perfformio
Awdur: John Hughes

Ganwyd yn Lerpwl, 16 Ionawr 1909, mab Capten Richard Williams ac Anne Williams, y ddau o'r Marian-glas, sir Fôn. Boddwyd ei dad pan oedd Albert yn 4 oed a bu farw ei fam ac yntau'n 15 oed. Gofalwyd amdano ef a'i frawd a'i chwaer gan Mrs. Stanley Jones, Lerpwl, chwaer i'w fam. Dechreuodd ddysgu canu'r piano a'r organ yn ifanc iawn, ac apwyntiwyd ef yn organydd capel M.C. Chatham St., Lerpwl, pan oedd yn 16 oed. Yn ddiweddarach bu'n organydd yng nghapel Douglas Road a chapel yr Annibynwyr Seisnig yn Great George St., Lerpwl. Oddiar pan adawodd yr ysgol yn 16 oed bu'n gweithio fel clerc o dan gorfforaeth ddinesig Lerpwl. Yn 1940 priododd Glenys Jones o Church Village, Pontypridd. Bu'n fyfyriwr dygn cerddoriaeth o dan gyfarwyddyd W. H. Whitehall, Lerpwl, a phasiodd y graddau A.R.C.O. ac F.R.C.O. Gweithiai ar gyfer y radd o Mus.Bac. ond torrwyd ar ei gynlluniau gan y Rhyfel 1939-45. Ei fwriad oedd ymroi yn gyfan gwbl i astudio cerddoriaeth ar ddiwedd y rhyfel, ac fe'i hapwyntiwyd yn drefnydd cerddoriaeth i Sir Aberteifi, ond gwrthododd yr awdurdodau milwrol ei ryddhau. Yn fuan wedyn, torrodd ei iechyd i lawr a bu farw yn ysbyty Middlesex ar 8 Ionawr 1946. Yr oedd ganddo fesur helaeth o ddawn brin y beirniad, ac ysgrifennodd erthyglau beirniadol ar wahanol agweddau o gerddoriaeth, ac yn arbennig cerddoriaeth Cymru, i'r Cerddor, Y Ford Gron, Y Brython, Y Faner, Y Cymro, Y Llenor, a'r Western Mail. Gwelir yn ei ysgrifau y deuai yn feirniad cerdd o bwys yng Nghymru pe cawsai fyw. Meddai ar chwaeth gerddorol gyfoethog iawn, a gwelir hynny yn ei gyfansoddiadau. Cyfyngodd ei gyfansoddi i gerddoriaeth leisiol - caneuon, rhanganau i leisiau cymysg, meibion a phlant, ynghyd a nifer o anthemau.

Er nad aeddfedodd yn llawn fel cyfansoddwr, enillodd lawer o wobrau am gyfansoddi yn yr eisteddfod genedlaethol a dangosodd ei holl waith fod ganddo grebwyll clir ac addewid amlwg am bethau mawr pe cawsai fyw. Cyhoeddwyd llawer o'i gyfansoddiadau gan Gwmni Cyhoeddi Gwynn, Llangollen, a Gwasg Prifysgol Cymru; gosodwyd amryw ohonynt eisoes yn braw-ddarnau yn yr eisteddfod genedlaethol. Bu ei farw cynnar yn golled fawr i gerddoriaeth Cymru.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.