WILLIAMS, DAVID JOHN (1886 - 1950), ysgolfeistr ac awdur

Enw: David John Williams
Dyddiad geni: 1886
Dyddiad marw: 1950
Priod: Lena Williams (née Williams)
Rhiant: Sarah Williams
Rhiant: H. Williams
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: ysgolfeistr ac awdur
Maes gweithgaredd: Addysg; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: John Lloyd

Ganwyd yng Nghorris, 22 Awst 1886, yn fab i H. Williams (ap Idris) a Sarah ei wraig. Addysgwyd ef yn ysgol y bwrdd, Corris; ysgol ganolraddol Tywyn; coleg hyfforddi, Hull (1913-15). Dechreuodd ar ei waith fel athro yng Nghorris fel 'Monitor', yna fel disgybl-athro. Symudodd i Newbridge (sir Fynwy) fel is-athro didrwydded (1905-08). Dychwelodd i Feirion fel prifathro didrwydded yn ysgol Cwm Abergeirw (1908-10), Bronaber (1910-13), is-athro trwyddedig yng Nghorwen (1919), prifathro Llawrybetws (1919-20), Llandderfel (1920-31), Llanbedr (1931-48). Ymddeolodd 31 Awst 1948. Priododd 1922 Lena Williams o Lanuwchllyn. Bu farw yn sydyn wedi siarad ym mhwyllgor addysg Meirion yn Nolgellau 1 Chwefror 1950, a chladdwyd ef yn Llanuwchllyn 4 Chwefror 1950.

Cyhoeddodd nifer helaeth o lyfrau addas i blant ysgol, megis Cyfres Chwedl a Chân (6 llyfr); Llyfrau Ysgrifennu Cymraeg (6 llyfr). Casglodd ynghyd nifer mawr o lyfrau Cymraeg cymwys i blant. Yr oedd yn un o olygyddion Meirionnydd, cylchgrawn ar gyfer cangen Meirion o Urdd Gobaith Cymru. Efe ydoedd sylfaenydd a golygydd Hwyl, comic Cymraeg lliwgar i blant bach. Enillodd droeon ar waith llenyddol yn yr eisteddfod genedlaethol, ac yr oedd yn aelod o Gyngor yr Eisteddfod.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.