WILLIAMS, WILLIAM JONES (1863 - 1949), swyddog yn y gwasanaeth gwladol, Ysgrifennydd Cwmni Kodak, Trysorydd Coleg Harlech ac Urdd Gobaith Cymru

Enw: William Jones Williams
Dyddiad geni: 1863
Dyddiad marw: 1949
Priod: Mary Williams (née Williams)
Rhiant: Ellen Williams
Rhiant: John Williams
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: swyddog yn y gwasanaeth gwladol, Ysgrifennydd Cwmni Kodak, Trysorydd Coleg Harlech ac Urdd Gobaith Cymru
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Addysg; Hanes a Diwylliant; Gwasanaethau Cyhoeddus a Chymdeithasol, Gweinyddiaeth Sifil
Awdur: Margaret Beatrice Davies

Ganwyd 21 Mai 1863 yn Salford, sir Gaerhirfryn, yr hynaf o 7 plentyn John Williams (1828 - 1877), ' warehouseman ' (gynt o Dyn-y-graig, Garthgarmon, gerllaw Llanrwst) a'i wraig (gyntaf), Ellen Williams (1838 - 1874), brodor o Fethel, gerllaw Llandderfel, Sir Feirionnydd. Wedi cyfnod byr yn Ysgol Ramadeg Manceinion (Ionawr 1875 hyd Rhagfyr 1876) dechreuodd weithio (21 Rhagfyr 1876) ym masnach ' Mr. Salmon's, Machinist, Manchester ', am gyflog o bum swllt yr wythnos. Tua'r flwyddyn 1880 pasiodd arholiad y gwasanaeth gwladol ('Second Division Clerk') a bu yn Adran yr Exchequer and Audit hyd 1900. Y flwyddyn honno fe'i gwahoddwyd gan George Davison (wedi hynny o Blas Wern Fawr, Harlech, cartref ' Coleg Harlech ' yn awr, ac a fuasai yntau yn Adran yr Exchequer and Audit) i ddyfod yn Ysgrifennydd Cwmni Kodak Limited; parhaodd yn y swydd honno hyd 1928. Cyn iddo adael y gwasanaeth gwladol yr oedd wedi cymryd arholiadau allanol Prifysgol Llundain ac wedi graddio yn B.A., ac yn LL.B.; pasiodd hefyd arholiadau'r bargyfreithwyr (yr oedd yn aelod o'r Middle Temple). Trafaeliodd lawer yng ngwasanaeth Cwmni Kodak yn Ewrop (gan gynnwys Rwsia), De Affrica, a'r Aifft, i drefnu neu arolygu canghennau o'r cwmni hwnnw; yr oedd, wrth gwrs, yn gyfrifydd a gawsai brofiad helaeth.

Yn ystod ei gyfnod yn Llundain yr oedd W. J. Williams yn aelod yng nghapel y M.C. yn Shirland Road; yr oedd hefyd yn aelod cynnar o'r Fabian Society ac Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, ac yn flaenllaw gyda mudiad Cymru Fydd. Wedi iddo ymddeol o'i swydd dan gwmni Kodak (ac yn arbennig wedi iddo symud i Gae Ffynnon, Llandudno Junction, yn 1921) gallodd roddi mwy a mwy o wasanaeth i gymdeithasau, sefydliadau, a mudiadau. Yn eu plith yr oedd Coleg Harlech (Trysorydd, 1927-48, ac yna'n Is-Lywydd), Urdd Gobaith Cymru (Trysorydd, 1931-42), y Blaid Lafur (bu'n helpu i gynnal Y Dinesydd), Cymdeithas Addysg y Gweithwyr (bu'n cynnal dosbarth - Llenyddiaeth Cymru - yng Nghonwy am chwe thymor), Cymdeithas Hynafiaethau Cymru, &c. Ar ei gyngor ef y corfforwyd Cwmni Urdd Gobaith Cymru (Corfforedig).

Priododd Mary Williams (1873 - 1942), merch o Lundain (gynt o Ruthun), a oedd fel ei gŵr a chanddi ddiddordeb mawr mewn dringo mynyddoedd a chreigiau. Bu Williams yn dringo yng Ngogledd Cymru ac yn yr Alpau ac yr oedd yn gyfeillgar â dringwyr adnabyddus megis Owen Glynne Jones, Roderick Williams, J. M. Archer Thomson, G.D., ac A. P. Abraham; yr oedd yn aelod o'r Alpine Club (er 1903) a hefyd yn perthyn i'r Climbers' Club. Ysgrifennodd gyfran i waith S. H. Hamer, Dolomites (1910, arg. arall yn 1926) ac i Cassell's Storehouse (gol. S. H. Hamer). Casglodd lyfrgell breifat dda, gan gynnwys ynddi lawer o lyfrau Cymreig a llyfrau ar ddringo mynyddoedd. Bu farw 10 Awst 1949.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.