Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



WILLIAMS , JOHN LLOYD ( 1854 - 1945 ), llysieuydd a cherddor ;

g. 10 Gorff. 1854 ym Mhlas Isa , Llanrwst (hen gartref William Salesbury ) , yr hynaf o saith plentyn Robert a Jane Williams . Am bum mlynedd, 1868-72 , bu'n ddisgybl-athro yn ysgol Frytanaidd Llanrwst , cyn myned i'r coleg Normal ym Mangor . Yn 1875 penodwyd ef yn brifathro ysgol elfennol Garn Dolbenmaen , sir Gaernarfon . Tua chanol nawdegau'r ganrif bu'n gweithio gyda'r Athro ( Syr ) John Bretland Farmer yn y Royal College of Science yn Llundain , lle yr oedd yn ysgolor Marshall . O 1897 hyd 1912 bu'n ddarlithydd cynorthwyol mewn llysieueg yng ngholeg y Brifysgol , Bangor , ac o 1912 hyd 1915 yn gynghorydd mewn llysieueg amaethyddol i'r Bwrdd Amaethyddiaeth ym Mangor . Yn 1915 penodwyd ef yn athro llysieueg yng ngholeg y Brifysgol , Aberystwyth , a bu yno hyd nes iddo ymddeol yn 1925 . Tra yr oedd yn Llundain cychwynnodd ar ei waith ymchwil ar fathau arbennig o wymon , a chyhoeddwyd ffrwyth yr ymchwil hwn yn The Annals of Botany , 1896 , a The Proceedings of the Royal Society , 1897 . Ym Mangor y gorffennodd ei waith mwyaf adnabyddus sef ar y Dictyota , a chyhoeddwyd hwn yn 1904-5 . Darllenasai bapurau ar algae i'r Gymdeithas Brydeinig yn Bradford yn 1900 ac yn Dundee yn 1912 , ac yn 1921 cyhoeddodd ffrwyth ei ymchwil ynglŷn â'r pwnc yn The Annals of Botany . Gwnaeth rai darganfyddiadau arbennig yn y maes hwn yr un adeg â Sauvageau . Ef oedd llywydd adran K (Llysieueg) o gynhadledd y Gymdeithas Brydeinig er hyrwyddo Gwyddoniaeth yn Southampton yn 1925 . Cyfrifid ef y prif arbenigwr ar fflora arctig alpaidd ardal Eryri . Er yn blentyn buasai'n hoff o gerddoriaeth , a phan oedd yng Ngarn Dolbenmaen ysgrifennodd operetau bychain . ‘ Aelwyd Angharad ’ a ‘ Cadifor ’ oedd cynhyrchion mwyaf adnabyddus ei gyfnod diweddarach. Llew Tegid a ysgrifennodd y geiriau i'r ddau waith hyn. Yr oedd yn adnabyddus fel beirniad cerdd , arweinydd corau ac arweinydd cymanfaoedd . Bu iddo ran bwysig yn sefydlu Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru , yn 1906 , a bu'n olygydd cylchgrawn y gymdeithas. Bu hefyd yn olygydd Y Cerddor . Casglodd ef ac Arthur Somerville ddwy gyfrol o alawon Cymreig ( Boosey & Co. ). Enillodd radd D.Sc. (Cymru) am ei waith ar ‘marine algae’ yn 1908 , a chafodd radd anrhydeddus D.Mus. (Cymru) yn 1936 .

Wedi iddo ymddeol ysgrifennodd ei atgofion mewn pedair cyfrol dan y teitl Adgofion Tri Chwarter Canrif . Cyhoeddwyd tair o'r cyfrolau gan y Gymdeithas Lyfrau Cymraeg , a'r bedwaredd, wedi ei farw, gan Gwmni Cyhoeddi Foyle , Llundain , a gyhoeddodd hefyd ei gyfrol Y Tri Thelynor . Ysgrifennodd hefyd Byd y Blodau a gyhoeddwyd gan y Meistri Morris a Jones , Lerpwl . Parhaodd hyd ddiwedd ei oes i ymchwilio i wreiddiau a datblygiad cynnar cerddoriaeth Gymraeg .

Priodasai Elizabeth Jones , merch Emanuel ac Ann Jones , Tŷ Lawr , Cricieth , a bu iddynt ddau fab, Idwal a Geraint . Bu f. 15 Tach. 1945 yn Peacedown St. John , Bath , Somerset , a chladdwyd ef yng Nghricieth .

Ffynonellau:

  • Y Faner , 22 Tach. 1945 ;
  • Nature , cyf. 157, 30 Mawrth 1946 ;
  • Proceedings of the Linnean Society of London , Llundain , cyf. 158, rhan 1, Ion. 1947 ;
  • The Liverpool Daily Post , 19 Tach. 1945 ;
  • Western Mail , 16 Tach. 1945 ;
  • The Weekly Mail , 24 Tach. 1945 .

Awdur:

Yr Athro Emeritus Robert Alun Roberts, C.B.E., Ph.D. (1894-1969), Bangor

Blwyddyn Cyhoeddi: 1970